S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pobl ifanc Cymru eisiau Newid Byd!

02 Mehefin 2011

Mae cyfres newydd S4C, Newid Byd, wedi dewis wyth o bobl ifanc ffodus fydd yn cael teithio i wlad dramor i wneud gwaith gwirfoddol pwysig.

Dros y misoedd diwethaf, mae Newid Byd wedi bod yn chwilio am wyth person ifanc addas rhwng 14 a 16 oed. Fe wnaeth dros 200 o bobl ifanc gystadlu ac, yn ôl cynhyrchydd y gyfres, Mererid Wigley o gwmni teledu Telesgop yn Abertawe, roedd y safon yn uchel iawn.

“Roedd darllen y ceisiadau yn codi fy nghalon. Mae pobl ifanc yn aml yn cael eu beirniadu am beidio â dangos consyrn neu ddiddordeb yn y byd o’u cwmpas ond mae’r ceisiadau yma wedi dangos i’r gwrthwyneb. Mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc sy’n weithgar yn eu cymunedau, sy’n teimlo’n gryf am bynciau amgylcheddol a chymdeithasol, ac sy’n codi arian ar eu cyfer nhw.”

Yn dilyn proses ddwys o ddewis a dethol, mae’r wyth terfynol wedi cael eu henwi. Yn ystod yr Hydref, bydd pedwar yn mynd i Malawi a’r pedwar arall yn teithio i Cambodia i gyflawni gwaith gwirfoddol, dan ofal arweinydd profiadol. Fe fydd y prosiectau penodol yn helpu pobl a byd natur y rhan honno o’r byd, ac fe fydd yn cynnig her fythgofiadwy i'r bobl ifanc.

Mi fydd y prosiectau amgylcheddol yn cynnwys gwaith monitro ac arolygu anifeiliaid, adeiladu cuddfannau i wylio bywyd gwyllt a helpu gyda gwaith addysgu mewn pentrefi eco-dwristiaeth. Byddan nhw hefyd yn helpu i ail-blannu coed cynhenid mewn fforestydd glaw sydd wedi cael eu dinistrio yn sgil torri coed yn anghyfreithlon.

Bydd y prosiectau cymunedol yn rhoi’r cyfle i’r grŵp ymgolli mewn diwylliant gwahanol a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned sy’n eu croesawu. Bydd y criw yn helpu i greu gwelyau mewn cartref i blant amddifad ac yn adeiladu rhan o ysgol leol yn Affrica, gan gynhyrchu’r briciau eu hunain.

Yn ôl Mererid Wigley, “Mae’r wyth sydd wedi cael eu dewis yn dod o gefndiroedd amrywiol sy’n golygu bod ganddyn nhw bersbectif gwahanol ar y byd yn barod. Dwi’n edrych ymlaen at weld sut fyddan nhw’n ymateb i’r her sydd o’u blaenau. Y gobaith yw y byddan nhw’n ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl a mynd ati i helpu eraill yn eu cymunedau eu hunain.”

Diwedd

Yr wyth fydd yn Newid Byd:

Malawi:

Lloyd Antrobus, 15 oed, Bwcle, Sir y Fflint

Ioan Dafydd Williams, 16 oed, Dinas Powys, Bro Morgannwg

Teleri Wyn Davies, 14 oed, y Bala

Mali Ann Rees, 16 oed, Caerdydd

Cambodia:

Yali Banton-Heath, 15 oed, Corris, Machynlleth

Hannah Stevenson, 15 oed, Aberteifi

Danial Ellis Evans, 16 oed, Llangefni

Aron Tudur Dafydd, 14 oed, Silian, Llanbedr Pont Steffan

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?