S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Crwydro ar draws gogledd Cymru ar Y Goets Fawr

17 Mehefin 2011

 Pan fyddwch yn sbïo allan o’ch ffenest yng ngogledd Cymru ddiwedd Mehefin, peidiwch synnu i weld hen Goets Fawr draddodiadol y Post Brenhinol yn cael ei thynnu gan geffylau ar eich stryd chi.

Nid dychmygu’r holl beth fyddwch chi ond gweld coets fydd yn ganolbwynt i gyfres unigryw ar S4C Y Goets Fawr.

Y cyflwynydd Ifan Jones Evans fydd tu fewn i’r goets yn dysgu mwy am ei hanes a llwybr yr hen Bost Brenhinol o Lundain i Iwerddon. Mewn gwisg y cyfnod, bydd Ifan yn mwynhau bwyd ac adloniant y 19eg ganrif ac yn cyfarfod llu o gyfranwyr ar hyd y daith. Hyn oll cyn iddo gyrraedd digwyddiadau arbennig gyda’r nos.

Gadawodd y goets yn gadael canol dinas Llundain ddydd Sul 19 Mehefin a chawn ymuno ag Ifan wrth i’r goets gyrraedd Cymru rhwng yr Amwythig a Chroesoswallt ar S4C ar ddydd Sul 26 Mehefin.

Ar hyd y daith, bydd y tîm yn ymweld â Llangollen, Pentrefoelas, Capel Curig a Bangor cyn cyrraedd pen y daith yng Nghaergybi ar y nos Iau 30 Mehefin.

Gyda’r nos bydd Ifan yn ymuno â Shân Cothi mewn lleoliadau ar hyd y daith yn fyw ar S4C. Mae yna groeso cynnes i bawb i gamu nôl i’r gorffennol ac ymuno yn yr hwyl yn y digwyddiadau traddodiadol, sy’n cynnwys gemau tafarn, ffair cyflogi a noson werin.

Wrth i’r goets gyrraedd Llangollen nos Sul 26 Mehefin, cynhelir noson o ddawnsio gwerin a cherddoriaeth ym Mharc Riverside. Nos Lun 27 Mehefin bydd y goets yn aros yn Fferm Ceirnioge Mawr, Pentrefoelas a chynhelir ffair gyflogi gyda gemau, cystadlaethau, cerddoriaeth a bwyd.

Dangosir y ffilm ‘Jamaica Inn’ a bydd gemau tafarn yn Nhafarn Tŷ’n y Coed, Capel Curig, nos Fawrth 28 Mehefin - trydydd man aros y goets. Y noson wedyn, nos Fercher 29 Mehefin ceir gwledd o adloniant ar lannau’r Fenai ar y Pier ym Mangor wrth i’r goets gyrraedd. Blaendraeth Caergybi fydd diwedd y daith drwy ogledd Cymru ac i ddathlu cynhelir gorymdaith geffylau a cherbydau.

Bydd Ifan a’r criw yn ymweld ag ysgolion hefyd ar hyd y daith ar draws y gogledd.

Croeso i unrhyw un gamu nôl mewn amser drwy ymuno â’r digwyddiadau. Am fanylion diweddaraf y digwyddiadau ac i ddarganfod sut i fod yn rhan ohonynt, cadwch lygaid ar wefan S4C, s4c.co.uk/caban a s4c.co.uk/y goets fawr

Cyfnod 1808 yw’r amser dan sylw yn y gyfres newydd ar S4C. Dyma gyfnod pan fu’n rhaid newid llwybr y daith er mwyn cyflymu’r post. Y llwybr newydd hwn fydd y tîm yn ei ddilyn yn ystod yr wythnos.

Coets fawr a thimau o bedwar ceffyl oedd y ffordd orau i gludo’r post cyn dyfodiad y rheilffyrdd. Un o gymeriadau mwyaf poblogaidd ardal Bangor, Gari Wyn, fydd yn olrhain hanes coets y post brenhinol a gyrrwr y goets fydd Gwyn Williams o Ffarmers, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, gŵr profiadol wrth awenau'r coach and four.

Yn ôl Ifan, mae’n hanes difyr iawn ac mae’n credu ei bod yn bwysig peidio ag anghofio’r hen draddodiadau.

“Fyddai’n eistedd yn ôl yn ymlacio a siarad am yr hanesion tra bo’ rhywun arall yn gyrru’r goets. Braf! Ond allwch chi ddim peidio â’m gweld ni. Mae coets draddodiadol y Post Brenhinol yn felyn llachar felly dewch draw i ddweud helo os byddwch chi’n digwydd ein gweld ar y daith,” meddai Ifan.

“Rwy’n siŵr y bydd cefnogaeth y bobl leol ar hyd y daith yn wych - mae’r ceffylau a’r goets liwgar siŵr o gael ymateb da. Ond mae’r tîm cynhyrchu yn wynebu tasg enfawr wrth drin y ceffylau, manylu ar lwybr y daith ac addasu’r goets ar gyfer y ffordd fawr.

Gallwch ddilyn taith Ifan, Shân a Gari ar Twitter @ygoetsfawr ac ar Facebook - www.facebook.com/ygoetsfawr

Mae yna groeso i bawb i gamu nôl i’r gorffennol ac ymuno yn yr hwyl yn y digwyddiadau traddodiadol. Am fwy o fanylion neu i fod yn rhan o’r digwyddiadau, ewch i’r wefan – s4c.co.uk/ygoetsfawr –neu ffoniwch 02920 916667 (cost galwad genedlaethol arferol) i archebu eich tocyn.

Bydd yr holl arian a gesglir ar hyd y daith yn mynd at elusen swyddogol y Post Brenhinol eleni, sef Barnardos.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?