S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Penodiad Huw Jones yn Gadeirydd Awdurdod S4C

06 Mehefin 2011

Mae S4C wedi croesawu cadarnhad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon mai Huw Jones yw Cadeirydd newydd Awdurdod S4C.

Meddai Rheon Tomos, Is-Gadeirydd yr Awdurdod:

“Mae dyfnder profiad Huw ynghyd â’i ddealltwriaeth o’r byd darlledu yn mynd i fod yn gaffaeliad enfawr i ni wrth i ni wynebu sialensiau niferus y blynyddoedd nesaf.

“Edrychwn ymlaen at gefnogi Huw yn ei rôl newydd.”

Bu Huw yn Brif Weithredwr S4C am bron i 12 mlynedd, rhwng 1994 a 2005, yn dilyn gyrfa lewyrchus fel cynhyrchydd teledu annibynnol, gŵr busnes a pherfformiwr.

Bydd yn cychwyn yn ei rôl newydd ddydd Mercher, 8 Mehefin.

Bu Huw Jones yn Brif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe gadeiriodd is-gwmni masnachol y Sianel a bu’n Gyfarwyddwr SDN Cyf, deiliad trwydded deledu ddigidol ddaearol. Bu’n Gadeirydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd am dair blynedd hefyd.

Mae Huw wedi bod yn flaenllaw yn y byd cerddoriaeth a chyfryngau Cymraeg ers y 1960au hwyr. Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr Cwmni Recordiau Sain ac yn Rheolwr y cwmni hyd at 1981. Cyd-sefydlodd un o'r cwmniau teledu annibynnol cyntaf, Teledu’r Tir Glas, yng Nghaernarfon, yn 1981 gan gynhyrchu a goruchwylio rhaglenni adloniant, ffeithiol a phlant nes iddo ymgymryd â'i swydd yn S4C.

Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu Barcud, y cwmni adnoddau teledu, ac roedd yn Gadeirydd y cwmni rhwng 1981-1993. Huw oedd Cadeirydd cyntaf Teledwyr Annibynnol Cymru (1984-1986).

Magwyd Huw yng Nghaerdydd. Astudiodd Ieithoedd Modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Daeth yn adnabyddus yn gyntaf oll fel canwr poblogaidd a chyflwynydd rhaglenni teledu.

Ar hyn o bryd, Huw yw Cadeirydd Portmeirion Cyf ac Is-Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru. Mae’n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor RSPB ac mae’n Is-Gadeirydd Canolfan Dysgu Iaith Nant Gwrtheyrn.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?