S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Lansio gêm ddiweddaraf ap Stwnsh

07 Mehefin 2011

GLWP yw’r gêm aml-chwaraewr gyntaf i’w rhyddhau ar ffurf ap o wefan Stwnsh – gwasanaeth S4C i blant a phobl ifanc – ac mae modd ei lawr lwytho nawr.

Bydd gêm GLWP, a gynlluniwyd gan Cube Interactive ar ran Boomerang+ – y cwmni sy’n cynhyrchu darpariaeth Stwnsh i S4C – ar gael am ddim o iTunes i ddyfeisiau symudol Apple iPhone, iPod Touch ac yn gweithio ar iPad. Mae’r gêm hefyd ar gael i’w defnyddio ar ffonau Android.

Yn y gêm, bydd gan bob chwaraewr liw arbennig a’r gôl fydd llenwi’r sgrin gyda’i lliw cyn y lleill. Mae modd chwarae’r gêm ar wefan Stwnsh hefyd – s4c.co.uk/stwnsh.

Mae Byti – y gêm gyntaf a gynlluniwyd ar ffurf ap Stwnsh – ar gael o hyd. Bydd Stwnsh yn rhyddhau gemau newydd yn achlysurol a bydd modd casglu’r gemau yn archif eich ffôn a’u chwarae dro ar ôl tro.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae S4C yn parhau i arloesi ym myd technoleg newydd i blant a phobl ifanc ac mae’r datblygiad diweddaraf o gynnig gêm aml-chwaraewr yn enghraifft berffaith o hynny. Mae’r gêm hefyd yn adlewyrchu ein hymroddiad i gynnig estyniad i wasanaeth teledu ac ar-lein poblogaidd Stwnsh.”

Erbyn hyn, mae modd gwylio nifer o raglenni Stwnsh – a rhaglenni eraill S4C fel Pobol y Cwm, Porthpenwaig, Cyw a Dechrau Canu Dechrau Canmol – ar eich ffôn symudol drwy lawr lwytho ap arbennig S4C Clic.

Mae ap dwyieithog S4C Clic ar gael yn rhad ac am ddim. Ar hyn o bryd, mae’r ap ar gael ar yr iPhone yn unig ond mae’r sianel wrthi’n creu fersiynau o’r ap i’r iPad a’r iPod Touch.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?