S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

29 o staff S4C yn gadael yn wirfoddol

22 Mehefin 2011

 Mae S4C wedi cyhoeddi fod 29 o aelodau staff i adael eu swyddi o dan gynllun diswyddo gwirfoddol y Sianel.

Sefydlodd S4C y cynllun diswyddiadau gwirfoddol ymhlith ei staff yn dilyn y toriadau yng nghyllideb y Sianel. Cyhoeddwyd y cynllun ar 12 Mai.

Cyhoeddwyd toriad yng nghyllideb S4C o 24% dros bedair blynedd fel rhan o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd.

Yn ogystal â gwahodd ceisiadau diswyddo gwirfoddol, cyhoeddodd S4C ei fod yn barod hefyd i ystyried ceisiadau gan staff sy’n dymuno lleihau eu horiau gwaith neu rannu swydd.

Dywedodd Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, “Mae’n fater trist gweld staff yn gadael a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad, nifer ohonyn nhw ers blynyddoedd lawer. Dyma rhan gyntaf proses fydd yn arwain at ail-strwythuro S4C er mwyn adnabod arbedion pellach a sicrhau dyfodol tymor hir y Sianel.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?