S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C 2010

29 Mehefin 2011

Mae Awdurdod S4C wedi cyflwyno ei Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol 2010 gerbron y Senedd.

Ar ôl disgrifio 2010 fel ‘blwyddyn gythryblus yn hanes S4C,’ dywedodd Huw Jones, Cadeirydd newydd Awdurdod S4C, “Fy ngobaith i yw troi’r sylw yn awr at yr her sydd o’n blaenau, sef sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth teledu Cymraeg cryf a deniadol, a fydd wrth fodd cynifer â phosib o wylwyr, wrth i ni fynd i’r afael â’r cwestiynau strwythurol ac ariannol sy’n ein hwynebu.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf, mae gofyn i ni ddod i gytundeb ag Ymddiriedolaeth y BBC a’r Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ynglŷn â manylion y bartneriaeth a’r dull ariannu newydd sydd i ddod i rym yn ystod 2013.Fe fyddwn hefyd yn bwrw iddi i benodi Prif Weithredwr parhaol a Chyfarwyddwr Cynnwys. Gan weithredu argymhellion Syr Jon Shortridge ynglŷn â natur a strwythur y berthynas rhwng yr Awdurdod a’i swyddogion, byddwn yn cymeradwyo strategaeth er mwyn darparu gwasanaeth cyfoes a deniadol mewn cyfnod o doriadau, ac yn ystyried pob dull posib o gwtogi ar wariant nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â chreu rhaglenni a chynnwys.

“Fe fyddwn mor agored ag y mae’n bosib i gorff sy’n delio â chytundebau masnachol i fod ynglŷn â rhesymeg ein penderfyniadau ac fe fyddwn am sicrhau fod barn pobl Cymru – ein gwylwyr – a’u cynrychiolwyr yn cael ei chlywed a’i deall gennym.

“Cefais fy mhenodi i wasanaethu yn y swydd hon am gyfnod o bedair blynedd. Pedair blynedd hefyd yw hyd y sicrwydd ariannol a roddwyd i ni yn natganiad yr Ysgrifennydd Gwladol yn Hydref 2010.

“Mae dyfodol S4C y tu hwnt i hynny – ei hannibyniaeth a’i chyllido – yn dibynnu ar ganlyniad adolygiad allanol sydd i ddigwydd cyn diwedd y cyfnod. Ein tasg felly yw sicrhau y bydd yr adroddiad hwnnw yn ddatganiad cadarnhaol am berfformiad y gwasanaeth, gwerthfawrogiad y cyhoedd ohono, y gwerth am arian a ddarperir ac am ei gyfraniad ehangach i fywyd y genedl. Dyma’r materion a fydd yn ganolbwynt fy sylw i ac aelodau eraill yr Awdurdod yn ystod y cyfnod sydd i ddod.”

Gellir lawrlwytho copi o’r adroddiad o: www.s4c.co.uk/adroddiadblynyddol2010

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?