S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn lansio wythnos dysgu Cymraeg 2011

30 Mehefin 2011

 Mae S4C wedi cyhoeddi pecyn o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Dysgu Cymraeg 2011 rhwng 4 Gorffennaf ac 8 Gorffennaf.

Mae’r Wythnos Dysgu Cymraeg wedi’i threfnu yn ystod yr wythnos yn arwain at gyfres newydd S4C cariad@iaith:love4language lle bydd wyth o bobl adnabyddus yn dod at ei gilydd i ddysgu Cymraeg.

Fe fydd y gyfres yn dilyn wyth seren i wersyll ‘eco chic’ fforest yng Nghilgerran, rhwng 9 a 16 Gorffennaf. Bydd enwau’r sêr yn cael eu datgelu ychydig ddyddiau cyn i’r gyfres ddechrau.

Byddant yn wynebu wythnos gyfan o wersi dan hyfforddiant y tiwtor iaith a’r cyflwynydd Nia Parry a’r tiwtor iaith profiadol Ioan Talfryn.

Mae nifer o gyrff, mudiadau a chwmnïau adnabyddus wedi ymuno ac S4C i godi ymwybyddiaeth ac i ddenu sylw at y cyfleoedd ar gael i bobl i ddysgu’r Gymraeg. Maen nhw'n cynnwys y Canolfannau Cymraeg I Oedolion, Tesco, Acen, Western Mail a’r Daily Post.

Fe fydd digwyddiadau’r wythnos yn cynnwys lansio Pecyn Dysgu Cymraeg a thaith archfarchnadoedd Tesco. Fe fydd rhaglenni cylchgrawn S4C, Wedi 3 ac Wedi 7 yn darlledu eitemau amrywiol am yr wythnos.

Meddai Prif Weithredwr S4C Arwel Ellis Owen: “Rydym yn falch iawn bod y gyfres deledu wedi annog gwahanol gyrff a chwmnïau i weithio gyda'i gilydd i dynnu sylw at y cyfleoedd gwych sydd ar gael ar gyfer dysgu Cymraeg.

“Cafodd wythnos debyg ei chynnal pan ddarlledwyd cyfres flaenorol o cariad@iaith rai blynyddoedd yn ôl, ac fe lwyddodd yr wythnos i ddal dychymyg pobl Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd yr Wythnos Dysgu Cymraeg yma’n creu’r un diddordeb ac yn cynyddu’r galw am wersi dysgu Cymraeg hyd yn oed yn fwy.”

Mae cwmni aml-gyfrwng Acen wedi trefnu taith o siopau Tesco ledled Cymru lle bydd gwybodaeth ynghylch dysgu Cymraeg ar gael.

Mae taith Tesco yn cychwyn yn Tesco Extra Hwlffordd ddydd Llun 4 Gorffennaf, Tesco Extra Penybont ddydd Mawrth 5 Gorffennaf, Tesco Extra Pontypridd ddydd Mercher 6 Gorffennaf, Tesco Superstore yn Y Trallwng ddydd Iau 7 Gorffennaf ac yna Tesco Extra Wrecsam ddydd Gwener 8 Gorffennaf.

Fe fydd y Pecyn Dysgu Cymraeg yn cynnwys llyfryn a CD gan diwtor iaith enwoca’ Cymru, Nia Parry. Mae’n gyflwyniad i’r iaith Gymraeg ac yn cynnwys geiriau ac ymadroddion defnyddiol. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau dysgu Cymraeg sydd ar gael ar hyd a lled Cymru o fis Gorffennaf ymlaen.

Cewch lawrlwytho’r pecyn – yn cynnwys y CD – am ddim o wefan S4C, s4c.co.uk/cariadatiaith neu ei archebu drwy ffonio llinell gymorth S4C ar 0870 600 4141.

Diwedd

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?