S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi gweledigaeth S4C ar gyfer 2012-2015

01 Gorffennaf 2011

  Mae S4C wedi cyhoeddi Gweledigaeth newydd ar gyfer 2012-15 gyda’r nod o ddarparu rhaglenni heriol a chyfoes sy’n adlewyrchu gwahanol gymunedau Cymru.

Mae’r Weledigaeth wedi’i llunio mewn ymateb i doriadau a gyhoeddwyd i gyllideb y Sianel gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y llynedd. Ar gyfer 2012-2015 bydd cyllideb rhaglenni S4C yn isafswm o £65m y flwyddyn. Yn 2012, y gyllideb fydd £67m, gyda’r arian ychwanegol wedi’i adnabod fel rhan o adolygiad parhaus o gostau mewnol S4C. Mae’r ffigurau hyn yn cymharu â chyllideb rhaglenni o £83m yn 2010 a £78.7m yn 2011.

Fel rhan o’r Weledigaeth, bydd amserlen rhaglenni’r Sianel yn cael ei hailwampio. Bydd S4C yn parhau i ddarlledu drwy’r dydd, ond bydd y pwyslais ar yr oriau hynny gyda’r hwyr sy’n denu’r nifer fwyaf o wylwyr. Bydd natur flaengar, fywiog ac adloniadol i’r cynnwys, gyda phwyslais ar iaith glir a syml.

Cynhaliwyd ymchwil manwl, pellgyrhaeddol i anghenion y gwylwyr, a’r gwaith hwnnw sy’n sail i’r Weledigaeth. Cynhaliwyd arolwg o 1,000 o siaradwyr Cymraeg gan gwmni RMG Clarity, a holwyd chwe grŵp trafod - fydd yn beilot ar gyfer panel ymgynghorol newydd i’r dyfodol - gan gwmni YouGov. Trefnwyd ymgynghoriad cyhoeddus hefyd.

Fe wnaeth S4C ymgynghori gyda 40 o gwmnïau cynhyrchu, TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) a PACT (cymdeithas fasnachol cynhyrchwyr annibynnol yn y Deyrnas Gyfunol). Yn dilyn y trafodaethau – ac yn allweddol i lwyddiant y Weledigaeth - bydd S4C yn sefydlu o’r newydd Bartneriaeth Greadigol agored gyda’r sector annibynnol.

Bydd S4C yn mabwysiadu ffordd newydd o gomisiynu fydd yn cynnwys tair ‘ffenestr’ bob blwyddyn, ochr-yn-ochr â phroses gomisiynu ddi-dor yn ôl yr angen. Bydd cytundebau hefyd yn cael eu cynnig ar sail cystadleuaeth tendr agored a thryloyw.

Bydd S4C yn gweithio i sicrhau fod ei phresenoldeb ar y we mor atyniadol ac effeithiol ag y bo modd. Mae Fforwm Cyfryngau Newydd wedi’i sefydlu, fydd yn helpu’r Sianel i ddatblygu prosiectau newydd yn y maes.

“Gofynion y gwylwyr fu’r brif flaenoriaeth wrth lunio Gweledigaeth newydd fydd yn bywiocáu gwasanaeth S4C ar y sgrîn,” meddai Prif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen. “Mae S4C yn wynebu’r dyfodol yn hyderus er gwaetha’r ffaith bod yna lai o arian ar gael a bod yna newidiadau i’r ffordd y bydd y Sianel yn cael ei chyllido.

“Mae’r her sylweddol sy’n ein hwynebu yn golygu bod yn rhaid i ni feddwl am ffyrdd creadigol ac arloesol o ddatblygu’r gwasanaeth mewn cyfnod o newid a chydgyfeiriant. Rydym wedi edrych o’r newydd ar S4C er mwyn cynnig gwasanaeth fydd hyd yn oed yn well ar gyfer ein gwylwyr a’n defnyddwyr.

“Bydd ein Gweledigaeth newydd yn cynnig amrywiaeth o gynnwys safonol ar gyfer gwylwyr a defnyddwyr o wahanol gefndiroedd, oedrannau ac ardaloedd. Mae’n wasanaeth fydd yn apelio at Gymru a Chymry drwy ymateb i ofynion a disgwyliadau ein cynulleidfa. Byddwn yn cynnig cynnwys sy’n wreiddiol, yn ddyfeisgar, yn heriol ac yn ddeniadol – rhaglenni sy’n ‘rhaid eu gweld’ fydd yn dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd i drafod a rhannu profiadau.”

Gellir lawrlwytho’r dogfennau o:

http://www.s4c.co.uk/production/c_program-service.shtml

Diwedd

Nodiadau i’r golygydd

• Mae S4C yn ddarlledwr cyhoeddus Cymraeg unigryw. Dechreuodd ddarlledu nos Lun, 1 Tachwedd 1982, am 6.00pm.

• Cynhyrchwyr annibynnol, yn ogystal ag ITV Cymru, sy’n gwneud y rhan fwyaf o raglenni S4C. Mae’r BBC, o dan ddyletswydd statudol, yn darparu tua deg awr yr wythnos o raglenni, gan gynnwys y sebon dyddiol Pobol y Cwm.

• Mae S4C yn cynnig amrywiaeth o raglenni bob wythnos – o chwaraeon, drama a cherddoriaeth i ffeithiol, adloniant, plant a digwyddiadau - ar wahanol lwyfannau, gan gynnwys y we.

• Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) llywodraeth Prydain sy’n ariannu S4C. Mae gan S4C rai pwerau i gynhyrchu incwm masnachol hefyd. Yn 2010 fe gyhoeddodd DCMS newidiadau mawr i’r ffordd y bydd S4C yn cael ei ariannu. Mae trafodaethau am y newidiadau ar y gweill rhwng S4C, y BBC a DCMS.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?