S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn datgelu enwau’r wyth o sêr fydd yn dysgu Cymraeg mewn rhaglen fyw

04 Gorffennaf 2011

Mae S4C heddiw wedi datgelu enwau’r wyth person adnabyddus fydd yn treulio wythnos ddwys yn dysgu Cymraeg mewn gwersyll ecogyfeillgar yn Sir Benfro ar gyfer cyfres S4C, cariad@iaith:love4language.

Yr wyth dysgwr a fydd yn treulio’r wythnos yn wynebu heriau ieithyddol yng ngwersyll trawiadol fforest, Cilgerran, Sir Benfro yw:

• Lembit Öpik, cyn-Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn Sir Drefaldwyn

• Melanie Walters, actores o Abertawe’n wreiddiol, sydd fwyaf adnabyddus am ei chymeriad Gwen yn y gyfres gomedi “Gavin & Stacey”

• Helen Lederer, awdures ac actores gomedi sy’n wreiddiol o Lanymddyfri

• Rhys Hutchings, sy’n rhan o’r grŵp hip-hop “Goldie Lookin’ Chain” ac yn dod o Gasnewydd

• Sophie Evans, cantores o Donypandy, sy’n rhannu’r rhan Dorothy yn sioe “Wizard of Oz” yn y West End

• Matt Johnson, cyflwynydd dyddiol “OK TV” a chyfrannwr wythnosol i raglen deledu “This Morning”

• Colin Charvis, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, a chwaraewr i’r Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

• Josie d’Arby, cyflwynydd teledu ac actores o Gasnewydd

Fe fyddan nhw’n cyrraedd y gwersyll ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf.

Bydd y camerâu’n dilyn y dysgwyr Cymraeg newydd wrth iddynt astudio Cymraeg am bedair awr bob dydd o dan arweiniad y cyflwynydd a’r tiwtor iaith Nia Parry a’r tiwtor iaith blaenllaw Ioan Talfryn.

Fe fydd y gyfres, a ddarlledir dros wythnos gyda Gareth Roberts yn cyflwyno, yn dilyn y sêr mewn sioeau nosweithiol awr o hyd.

Mae’r wythnos, sy’n dechrau gyda rhaglen i lansio’r gyfres ar S4C nos Wener 8 Gorffennaf, yn cyrraedd ei hanterth gyda seremoni wobrwyo arbennig nos Wener 15 Gorffennaf.

Bydd y sioe yn cyd-fynd ag Wythnos Dysgu Cymraeg S4C pan fydd y Sianel yn cydweithio gyda sefydliadau, newyddiadurwyr a chwmnïau i greu mwy o ddiddordeb fyth yn yr iaith Gymraeg. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal rhwng 4 ac 8 Gorffennaf.

Mae’r gyflwynwriag fyrlymus a’r tiwtor iaith Nia Parry yn edrych ymlaen yn arw at sialens y gyfres cariad@iaith:love4language.

Meddai Nia Parry, "Mae’r sêr sy’n cymryd rhan yn gymysgedd liwgar, ddeinamig o bobl adnabyddus. Mae ganddyn nhw eu rhesymau personol eu hunain dros ddysgu Cymraeg ond fe allaf eich sicrhau eu bod i gyd yn gystadleuol ac yn frwd iawn. Fe ddylai fod yn wythnos ddiddorol iawn i ni a’n gwylwyr ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y profiad."

Bydd Nia ac Ioan yn defnyddio techneg ddysgu Cymraeg o’r enw 'TPR storytelling', dull a gafodd ei ddatblygu yn yr Unol Daleithiau sy’n defnyddio gweithgareddau corfforol gyda’r pwyslais ar ddatblygu dealltwriaeth.

"Fe fyddai llawer yn dweud bod gweld y sêr yn adloniant pur ond mae’r dull yma o ddysgu yn ffordd newydd, ddyfeisgar o ddysgu ieithoedd a fydd hefyd yn ddifyr i’w gwylio. Mae yna neges bwysig yma hefyd wrth gwrs – mae’n bosibl i unrhyw un ddysgu Cymraeg a chael hwyl wrth ddysgu," meddai Nia, sy’n byw ger Caernarfon, Gwynedd.

Bydd canolfan fforest – sy’n cynnig profiadau gwersylla ac awyr agored ychydig yn wahanol – yn lleoliad gwych ar gyfer y gyfres.

Ychydig o gyswllt gyda’r byd tu allan fydd gan y sêr yn ystod yr wythnos ond bydd gan y sêr yr hawl i drydar, blogio a defnyddio Facebook. Fe ddylai hynny fod yn ddeunydd darllen difyr i syrffwyr.

Bydd y gwylwyr gartre' hefyd yn gallu dilyn y sêr yn cael eu gwersi ar wefan S4C, s4c.co.uk.

Cwmni cynhyrchu Fflic, sy’n rhan o grŵp Boomerang+, fydd yn gyfrifol am gynhyrchu’r gyfres o raglenni byw, uchafbwyntiau a gweddarlledu.

Cafodd cyfres flaenorol o cariad@iaith:love4language ei darlledu rai blynyddoedd yn ôl pan ddaeth Tanni Grey-Thompson, Janet Street-Porter, Ruth Madoc, Steve Strange, Jamie Shaw, Bernard Latham ac Amy Wadge ynghyd ar gyfer arhosiad dramatig yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn.

cariad@iaith:love4language

Yn dechrau nos Wener 8 Gorffennaf 20:25, S4C ac yn parhau bob nos o nos Sul 10 i nos Wener 15 Gorffennaf

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk/cariadatiaith

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Fflic, rhan o Boomerang+, ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?