S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn croesawu'r gwelliant i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus

20 Gorffennaf 2011

Mae S4C wedi croesawu’r gwelliant i’r Mesur Cyrff Cyhoeddus wnaethpwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Hunt, sy’n sicrhau bod ariannu’r Sianel yn fater i’w benderfynu gan y Llywodraeth.

Mae’r gwelliant yn datgan mae’r Gweinidog fydd yn sicrhau ariannu perthnasol i’r Sianel yn 2012 a’r blynyddoedd i ddilyn er mwyn cwblhau dyletswyddau S4C i ddarparu gwasanaethau darlledu yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran y Sianel, “O ystyried yr ansicrwydd ynghylch llywodraethiant a chyllideb S4C yn y dyfodol, mae’r gwelliant hwn yn rhoi’r gydnabyddiaeth bwysig fod y cyfrifoldeb dros ariannu digonol i wasanaethau S4C yn dal gyda’r Llywodraeth.”

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?