S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tinopolis yn ennill tendr S4C gwasanaeth prynhawn, cylchgrawn nosweithiol a rhaglen nos Sul

20 Hydref 2011

Mae cwmni cynhyrchu Tinopolis wedi ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i gynhyrchu Gwasanaeth Prynhawn, Cylchgrawn Nosweithiol a Rhaglen Nos Sul ar S4C, yn amodol ar gytundeb.

Mi fydd y gwasanaeth newydd yn dechrau ym mis Mawrth 2012.

Dywedodd Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu y Sianel fod S4C yn edrych ymlaen i gyd weithio gyda Tinopolis ar wasanaeth sydd yn greiddiol i Weledigaeth 2012 S4C. Ychwanegodd fod y broses tendr wedi bod yn hynod gystadleuol ac wedi creu cyfle i wneud arbedion ariannol sylweddol yn ogystal â sicrhau gwasanaeth a rhaglenni o’r safon uchaf posib i wylwyr S4C.

Daw’r cyhoeddiad am y tendr yma, sy’n werth uchafswm o£5.1 milwn y flwyddyn, ar ddiwedd cyfnod prysur i’r tîm Comisiynu a’r cwmniau cynhyrchu.

Fe ddaeth bron i fil o syniadau a chynigion i law fel rhan o broses arall - Ffenestr Gomisiynu gyntaf S4C ar gyfer amserlen 2012. Mae 25 o gwmnïau gwahanol yn cael comisiynau ar sail y Ffenestr gyntaf hon. Maen nhw’n cynnwys ystod eang o raglenni a fydd yn cynnig amserlen gyffrous a chreadigol o’r safon uchaf.

Yn ôl Geraint Rowlands “Mae’r broses gomisiynu wedi bod yn her i’r cwmnïau cynhyrchu ac i S4C yng ngwyneb y toriadau yng nghyllid y Sianel ar gyfer 2012. Mae’n amlwg y bydd rhai cwmnïau ac unigolion wedi cael siom yng ngwyneb y cyhoeddiadiau diweddar. Ond mae’n rhaid pwysleisio y bydd cyfleoedd eraill i gynnig am gomisiynau a bydd y cyfle nesaf yn digwydd ar ddiwedd mis Hydref pan fydd yr ail Ffenestr Gomisiynu yn agor.

Mae’r Sianel hefyd yng nghanol proses ail dendr agored ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau eraill ar gyfer amserlen 2012.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?