S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newidiadau i amserlen S4C

01 Mai 2012

 Mae S4C wedi cyhoeddi newidiadau i’w hamserlen o ganol y mis hwn.

Mae’r sianel eisoes wedi cyhoeddi y byddai newidiadau i gynnwys ac arddull y rhaglen gylchgrawn ‘Heno’ gyda llawer mwy o bwyslais ar gael perthynas agos gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru. Ar yr un pryd cyhoeddwyd y byddai swyddfa Tinopolis, cynhyrchwyr ‘Heno’, yng Nghaernarfon yn ail agor.

Wrth gyhoeddi’r newidiadau dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ymateb i’r amserlen newydd ac yn mawr obeithio y bydd y gynulleidfa yn cael ei phlesio gyda gweithgaredd ‘Heno’ o gymunedau amrywiol Cymru. Bydd cyfle yn hwyrach yn y nos i’r sianel fod yn fwy mentrus a blaengar - yn wir, i atgyfnerthu'r gwasanaeth yn galon i’r genedl.”

Fel rhan o’r newidiadau o 14 Mai ymlaen bydd ‘Heno’ yn ymestyn i bum rhaglen yr wythnos o nos Lun i nos Wener.

Bydd Angharad Mair, Gerallt Pennant ac Eleri Sion yn rhan o’r tîm cyflwyno. Bydd Rhodri Ogwen Williams yn gadael y tîm i ganolbwyntio ar gyfresi eraill i S4C gan gynnwys ‘Jacpot' sy’n rhan o’r rhaglen ‘Pen8nos’.

Bydd y rhaglen gylchgrawn ‘Prynhawn Da’ yn newid i fod yn rhaglen awr gan gynnwys eitemau hamdden a sgwrsio.

Ailddarlledir ‘Heno’ amser cinio’r diwrnod ar ôl y darllediad gwreiddiol ac ailddarlledir uchafbwyntiau ‘Prynhawn Da’ bob prynhawn Sul.

Meddai Angharad Mair, cynhyrchydd ‘Heno’ a ‘Prynhawn Da,’ “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i gyflwyno’r ‘Heno’ newydd, rhaglen gylchgrawn ble bydd S4C yn rhoi’r gwylwyr, cymunedau a digwyddiadau ar y sgrin. Rhaglen y gwylwyr fydd hon fydd yn dangos yr holl weithgaredd difyr a diddorol sy’n digwydd ym mhob cwr o Gymru yn ddyddiol.”

Mae’r rhaglen ‘Pen8nos’ ar nos Wener hefyd yn mynd i newid o 25 Mai ymlaen. Bydd yn dal i gynnwys elfennau cystadleuol fel ‘Jacpot’ a bydd ‘Sam Ar y Sgrin,’ cyfres Aled Samuel sy’n bwrw golwg ar raglenni’r wythnos ar S4C, yn symud o nos Sul i fod yn rhan o ‘Pen8nos.’

Bydd slot 10 o’r gloch o nos Lun i nos Wener yn newid hefyd. Bydd ‘Sgorio’ yn symud nôl fel rhaglen awr i 10 o’r gloch ar nos Lun ac ymhlith rhaglenni eraill yn y slot yn ystod gweddill yr wythnos bydd rhaglenni ieuenctid fel ‘Y Lle’ a chyfresi comedi fel ‘Gwlad yr Astra Gwyn.’

Bydd ailddarllediad ‘Pobol y Cwm’ yn symud nôl i 6.30 o nos Lun i nos Wener. Slot newydd y gyfres ddrama ‘Rownd a Rownd’ fydd 6.10pm ar nos Lun a nos Fercher gyda’r ailddarllediad ar ddydd Sul.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?