S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Elin Fflur yn dringo i'r copa wrth ymuno â thîm Heno

10 Mai 2012

Mae'r gantores Elin Fflur yn edrych ymlaen at gyflwyno o ddigwyddiadau ym mhob rhan o Gymru wrth iddi ymuno â thîm y rhaglen gylchgrawn Heno ar S4C.

A bydd yr wythnos gyntaf yn ei swydd newydd yn mynd a hi i'r uchelfannau wrth iddi gyflwyno o gopa'r Wyddfa!

"Dwi 'mond wedi bod i fyny'r Wyddfa unwaith o'r blaen, ac roedd hynny ar gyfer ffilmio hefyd!" meddai Elin, sy'n edrych ymlaen at her ei swydd newydd.

"Dwi'n mwynhau siarad efo pobol a chyfarfod pobl ddiddorol, a bydd Heno yn gyfle i mi fynd i ddigwyddiadau gwahanol, ar wahân i ganu!" meddai'r gantores o Sir Fôn, sydd wedi hen arfer â theithio ar hyd a lled Cymru ar gyfer perfformio.

"Beth sy'n neis am y rhaglen yw ei bod hi'n mynd ar ôl pethe amserol, ac felly bydd gen i ddim syniad i ble bydda i'n mynd o un wythnos i'r llall. Mae'n dibynnu beth sy'n digwydd yng Nghymru'r wythnos honno, ac mae hynny yn gyffrous."

Yn y rhaglen ar nos Wener 18 Mai (7.00pm, S4C) bydd Elin yn cyflwyno o ben mynydd uchaf Cymru am mai dyna lleoliad cyhoeddi Neges Ewyllys Da yr Urdd eleni.

Hefyd ar ei wythnos gyntaf, bydd hi'n cyflwyno eitem ecsgliwsif, ar nos Fercher, 17 Mai, gyda'r cyfle cyntaf i weld coron a chadair Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Ac ar ei diwrnod cyntaf yn y gwaith, ar nos Lun 14 Mai, bydd hi mewn noson arbennig ym Mhenllyn sy'n dathlu 30 mlynedd ers i'r gân Nid Llwynog Oedd yr Haul ennill Cân i Gymru, yng nghwmni'r cyfansoddwyr Myrddin ap Dafydd a Geraint Lovgreen.

Bydd Dafydd Du hefyd yn ymuno â thîm y rhaglen Prynhawn Da i gyflwyno o'r stiwdio bob prynhawn Llun i Gwener am 2.00pm gyda Mari Grug, Siân Thomas a Rhodri Owen.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?