S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C, BBC Radio Cymru a Rondo mewn partneriaeth i ddarlledu’r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig

24 Mai 2012

 Bydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig sy’n rhan o broses ddethol BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013 yn cael cynulleidfa ehangach eleni o ganlyniad i bartneriaeth arloesol rhwng S4C, BBC Radio Cymru a chwmni cynhyrchu Rondo Media.

Teledir y gystadleuaeth ar S4C ac fe’i darlledir yn fyw ar BBC Radio Cymru ar noson y gystadleuaeth yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd – nos Lun 11 Mehefin.

Bydd enillydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig yn cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2013. Bydd hefyd yn derbyn gwobr o £2,000 a thlws. Fe fydd y cantorion eraill yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £750.

Mae’r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig wedi ei hanelu at gantorion ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol ac eleni, yn dilyn clyweliadau yng Nghaerdydd a Llundain, bydd y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cystadlu i gael y cyfle i gynrychioli Cymru flwyddyn nesaf. Y pedwar yw Rhian Lois (soprano) o Bontrhydygroes, Ceredigion, Fflur Wyn (soprano) o Sir Gaerfyrddin, Sioned Gwen Davies (mezzo-soprano) o Fae Colwyn a Garry Griffiths (bariton) o Benbre.

Trefnir y gystadleuaeth gan Cerdd Byw Cymru mewn cydweithrediad â BBC Cymru a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Grant Llewellyn fydd yn cyfeilio yn y rownd derfynol ac aelodau’r rheithgor fydd y cantorion rhyngwladol Rebecca Evans, Della Jones a Donald Maxwell, John McMurray, Pennaeth Castio, Opera Cenedlaethol Lloegr a Julian Smith, Cynghorwr Cerdd, BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae’r bartneriaeth hon ymhlith y cyntaf rhwng y BBC, cwmni cynhyrchu annibynnol a ninnau yn y trefniant newydd rhyngom fel darlledwyr. Y gynulleidfa sydd wrth galon ein holl weithgareddau a’r gwylwyr fydd yn elwa’n bennaf o’r cydweithrediad hwn. Rwy’n hyderus y bydd llawer mwy o enghreifftiau o gydweithredu fel hyn rhyngom yn y dyfodol.”

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, “Pa well ffordd o nodi ysbryd ein partneriaeth na’r cyd-gynhyrchiad yma sy’n cyfleu uchelgais y ddau ddarlledwr - i fynd â Chymru i’r byd gyda’r cyfoeth o ddoniau sydd yma. Trwy’r cynhyrchiad hwn mewn partneriaeth – y cyntaf o lawer gobeithio – bydd cynulleidfaoedd ar radio a theledu yn gallu rhannu’r wefr o ddarganfod pa ganwr neu gantores ifanc fydd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol BBC Canwr y Byd Caerdydd 2013.”

Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media, “Rwy’n falch eithriadol bod Rondo yn cynhyrchu’r darllediadau o’r gystadleuaeth i Gantorion Cymreig eleni.

“Mae hon yn gystadleuaeth arbennig, a safon y cantorion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn uchel tu hwnt. Mae Canwr y Byd yn agos iawn at fy nghalon i, gan mai’r diweddar Mervyn Williams, fy nhad, greodd y gystadleuaeth ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

"Mae'n wych bod S4C a BBC Cymru yn medru cyd-ddarlledu'r gystadleuaeth arbennig hon, ac rydym yn eithriadol o falch o fod yn cydweithio hefyd gyda Cerdd Byw Nawr a Neuadd Dewi Sant – cartre'r gystadleuaeth."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?