S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tim Hartley i adael S4C

10 Gorffennaf 2012

Mae Tim Hartley, Pennaeth Materion Corfforaethol S4C, wedi penderfynu gadael y Sianel.

Penodwyd Tim yn 2004 ac yn ystod y blynyddoedd diweddar fe sydd wedi bod yn gyfrifol am berthynas y Sianel gyda gwleidyddion yn San Steffan a’r Cynulliad Cenedlaethol. Bu hefyd yn gyswllt rhwng S4C a sefydliadau a rhanddeiliaid allanol gan sefydlu perthynas dda gyda nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae Tim wedi chwarae rôl ganolog yn S4C yn enwedig yn ystod cyfnod pwysig y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi meithrin perthynas adeiladol iawn gyda gweinidogion a gwleidyddion. Rydym yn dymuno’n dda iddo wrth iddo ymgymryd â heriau newydd ac yn diolch o waelod calon iddo am ei gyfraniad i ddyfodol y Sianel.”

Yn dilyn penderfyniad Tim i symud ymlaen, bydd y Pennaeth Partneriaethau newydd yn gyfrifol am waith cyswllt gwleidyddol S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?