S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dwy raglen gerddoriaeth newydd ar S4C yn fuan

08 Awst 2012

 Mae S4C wedi cyhoeddi bod rhaglenni cerddoriaeth ymhlith comisiynau diweddaraf y Sianel.

Datgelodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, mewn cyfweliad ar y rhaglen materion cyfoes Hacio (nos Fawrth 7 Awst), y bydd dwy raglen gerddoriaeth newydd ar y sgrin cyn hir, gan gryfhau ymroddiad y Sianel i dalent yng Nghymru.

Bydd y rhaglen gyntaf Y Lle: Ochr 1, sy'n gomisiwn i gwmni Antena yng Nghaernarfon, yn rhoi pwyslais ar artistiaid newydd a phoblogaidd y sin roc Gymraeg ac yn rhoi llwyfan i fandiau ifanc a chyfoes.

Bydd yr ail gyfres, sy'n gomisiwn i gwmni Tinopolis yn Llanelli, yn rhan o arlwy adloniant Pen8nos ar nos Wener. Mi fydd hi'n rhaglen gerddoriaeth fwy ysgafn ei naws gyda'r sylw yn bennaf i artistiaid sydd wedi hen sefydlu ar y sin, yn cynnwys ffefrynnau diweddar yn ogystal â'r hen ffefrynnau.

Dywedodd Dafydd Rhys, "Mae gan S4C draddodiad cryf o gefnogi'r sin roc yng Nghymru ac mae'r Sianel wedi ymelwa ar dalentau cerddorion sydd wedi datblygu i fod yn ysgrifenwyr, cynhyrchwyr a chyfarwyddwr teledu.

"Mae'r cyngherddau Gig50, a ddangoswyd ar S4C yn ddiweddar, yn dangos y dyfnder o dalent sy' mas yna. Er ein bod ni'n awyddus i ddarlledu digwyddiadau fel hyn o dro i dro yn y dyfodol rydym yn teimlo bod comisiynu cyfresi yn cynnig gwell cefnogaeth yn y tymor hir."

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Cynnwys S4C, "Y bwriad yw rhoi llwyfan i bob carfan o gerddoriaeth, gyda dwy raglen wahanol iawn sy'n darparu rhywbeth at glust pawb."

Bydd y rhaglenni ar y sgrin yn y flwyddyn newydd.

Gwyliwch gyfweliad Dafydd Rhys ar Hacio ar Clic

Diwedd 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?