S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i fod yn rhan o brosiect arloesol Pobol y Cwm

22 Awst 2012

 Mae S4C yn cynnig cyfle arbennig i gwmnïau neu unigolion sy'n gweithio yn y cyfryngau digidol i fod yn rhan o brosiect arloesol.

Pobol y Cwm yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, ac yn ystod hydref 2012 bydd BBC Cymru yn cynhyrchu prosiect traws-blatfform er mwyn denu cynulleidfa ifanc a thalent newydd sbon i'r brand.

Er mwyn cefnogi uchelgais Digidol S4C ac i lansio’r Gronfa Ddigidol, Awst 2012, hoffai S4C gynnig cyfle i gwmnïau neu unigolion fod yn rhan o'r prosiect.

Mae'n gyfle i arloeswyr digidol gydweithio â chriw drama profiadol Pobol y Cwm ar brosiect newydd traws gyfrwng 'PYC'. Bydd 'PYC' yn cynnwys: Webisodes, Digwyddiad Byw, Cymuned ar y We, Gemau Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol a Gwasanaeth ar Leoliad dros Gymru gyfan.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Hoffwn wahodd pobl i ddod atom ni gyda'u syniadau am beth y gallan nhw gynnig i'r prosiect. Mae'n gyfle cwbl agored ar gyfer sgiliau eang, yn ymestyn o dechnoleg newydd i ffordd arall o ddweud stori.

"Mae'n gyfle cyffrous ac rydym yn edrych ymlaen at weld y syniadau fydd yn dod i law."

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru, "Dyma gyfle gwych i Pobol y Cwm edrych o’r newydd ar y ffordd y mae’n gweithio, a manteisio ar y sector annibynol drwy S4C, i greu cyd-gynhyrchiad hynod i’r oes ddigidol."

Bydd disgwyl i ymgeiswyr amlinellu sut y gallan nhw gyfrannu yn greadigol ac yn dechnegol at y prosiect er mwyn sicrhau llwyddiant i'r fenter ac apelio at gynulleidfa newydd.

Mae'r prosiect yn gyfle i S4C a BBC gydweithio i ymestyn brand Pobol y Cwm a meithrin dull newydd o ddweud stori.

Y dyddiad cau yw 7 Medi 2012. Mae'r gyllideb yn dynn felly os oes modd dod ag arian ychwanegol at y bwrdd, gorau oll.

Os oes gennych chi gyfraniad i'w wneud i'r prosiect traws-gyfrwng arloesol yma, yna cysylltwch â matthew.glyn.jones@s4c.co.uk am Becyn Gwybodaeth.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?