S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tywydd yr wythnos yn arbennig i ffermwyr

24 Awst 2012

Mae gwasanaeth Tywydd S4C yn ymestyn i gynnwys bwletin o ragolygon yr wythnos sydd wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer ffermwyr a gweithwyr yn y diwydiant amaeth.

Bydd y bwletin dwy funud o hyd yn cael ei ddarlledu yn dilyn y rhaglen Ffermio bob nos Lun, gan ddechrau ar 3 Medi am 8.25pm pan mae'r gyfres amaeth a chefn gwlad yn dychwelyd i S4C wedi hoe dros yr haf.

Mae'r gwasanaeth newydd yn cynnwys rhagolygon ar gyfer yr wythnos i ddod gydag ystyriaeth i waith ffermwyr ar yr adeg honno o'r flwyddyn e.e. wyna yn y gwanwyn a chynhaeafu silwair yn yr haf.

Bydd sylw hefyd i ddigwyddiadau yn y calendr amaethyddol yn cynnwys marchnadoedd a sioeau amaeth. Eisoes mae modd i ffermwyr ddilyn y Blog Ffermio ar wefan Tywydd S4C – s4c.co.uk/tywydd - wrth i dri ffermwr rannu eu profiadau o ddydd i ddydd ar y buarth.

Mae'r bwletin newydd yn ychwanegu at ddarpariaeth Tywydd S4C sydd eisoes yn cynnwys bwletinau cyson ar y sgrin; gwefan dywydd cynhwysfawr gyda manylder hyd at 1 cilomedr; ac ap Tywydd S4C ar gyfer dyfeisiadau Apple ac Android.

Dywedodd Mari Grug, un o gyflwynwyr Tywydd S4C, "Fel un sydd wedi ei magu ar fferm ‘dwi’n gwybod yn iawn pa mor hanfodol yw’r tywydd i waith y ffermwr.

"Wrth i wasanaeth Tywydd S4C ddarparu bwletin arbennig ar ddechrau wythnos, dwi’n gobeithio y bydd yn ffynhonnell fuddiol iawn i amaethwyr Cymru wrth iddynt fynd ati i baratoi eu hamserlen o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos."

Mae'r bwletin Tywydd newydd wedi ei ychwanegu at yr amserlen mewn ymateb i alwadau gan wylwyr oedd yn gofyn am wasanaeth rhagolygon ar gyfer yr wythnos i ddod.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Rhaglenni S4C, "Rydym yn falch o allu cyflwyno'r gwasanaeth hwn yn ein hamserlen mewn ymateb i alwadau gan ein gwylwyr sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?