S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cystadleuaeth boblogaidd Ffermio yn ôl

31 Awst 2012

Mae cystadleuaeth flynyddol y gyfres Ffermio ar S4C yn ôl gyda chyfle i chi ennill un o dri threlar arbennig, yn rhodd gan gwmni Ifor Williams Cyf o Gorwen, Sir Ddinbych.

Mae'r gyfres wledig, a gynhyrchir gan Telesgop, yn cynnig tri threlar gwerth dros £4,000 Yn wobr gyntaf mae trelar cludo anifeiliaid TA5 8 troedfedd to isel, gwerth £2,665; yn ail y trelar Eurolight gwerth £1,645; ac yn drydydd mae'r trelar P6E gwerth £670.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau wrth i'r gyfres newydd o Ffermio ddychwelyd nos Lun 3 Medi am 8:25pm.

Ar ddiwedd pob rhaglen dros gyfnod o saith wythnos bydd y tîm yn gofyn cwestiwn gyda llythyren gyntaf pob ateb yn datgelu gair saith llythyren.

Anfonwch y gair hwnnw drwy'r post neu drwy'r ffurflen gais ar y wefan – s4c.co.uk/ffermio - erbyn y dyddiad cau ar 21 Tachwedd.

Mae’r gystadleuaeth wedi denu ymateb mawr bob blwyddyn ar Ffermio yn y gorffennol ac mae cwmni Telesgop yn derbyn ceisiadau ar draws y Deyrnas Unedig.

Meddai Gwawr Lewis, cynhyrchydd Ffermio, “Mae'r gystadleuaeth yn boblogaidd iawn gyda'n gwylwyr bob blwyddyn.

"Rydym yn ddiolchgar i gwmni Ifor Williams Cyf am ddarparu'r trelars, ac yn sicr mae ansawdd y gwobrau hael yn esbonio poblogrwydd y gystadleuaeth. Gan fod modd gweld rhaglenni S4C tu allan i Gymru mae gennym lawer o wylwyr ar draws y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd Daniel Burton, Cydlynydd Marchnata cwmni Ifor Williams Cyf, "Rydym yn falch o’r cyfle i gydweithio â Ffermio eto eleni.

"Mae ein cwsmeriaid wedi bod yn gefnogol iawn dros y blynyddoedd ac rydym yn teimlo ei fod yn bwysig iawn i ni yn ein tro gefnogi'r gymuned wledig – mae cydweithio â Ffermio yn ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl."

Gwyliwch Ffermio, bob nos Lun am 8:25pm, am fanylion sut i gystadlu neu ewch i'r wefan - s4c.co.uk/ffermio - i ddarllen y rheolau ac amodau yn llawn.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?