S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn talu teyrnged i’r cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr John Hefin

19 Tachwedd 2012

Mae Prif Weithredwr S4C wedi talu teyrnged i’r cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr John Hefin yn dilyn y newyddion trist am ei farwolaeth heddiw (19 Tachwedd 2012).

Bu John Hefin yn ganolog yn y byd darlledu yng Nghymru ers y 1970au ac yn rhan allweddol o nifer o gynyrchiadau amlwg.

Un o’i gyfraniadau mwyaf oedd fel un o sylfaenwyr y gyfres ddrama boblogaidd Pobol y Cwm yn 1974.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Ian Jones, Prif Weithredwr S4C gyflwyno gwobr Cyfrwng 2012 ym Mhrifysgol Abertawe am gyfraniad i’r byd ffilm a theledu yng Nghymru.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, “Roedd yn dristwch mawr i glywed am farwolaeth John Hefin. Fe fydd bwlch anferthol ar ôl gŵr a fu’n gyfrifol am ystod eang o raglenni teledu yn Gymraeg a Saesneg sydd wedi ysbrydoli a difyrru gwylwyr ers degawdau.

“Y deyrnged fwyaf un i John Hefin yw bod y gyfres a sefydlodd ar y cyd â’r dramodydd Gwenlyn Parry, Pobol y Cwm, yn dal yn un o gonglfeini amserlen y Sianel 38 mlynedd yn ddiweddarach. Bu hefyd yn allweddol mewn amrywiaeth o ffilmiau a chyfresi drama a dogfen wnaeth dorri tir newydd ac yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth o bobl yn y cyfryngau creadigol. Hoffwn estyn ein cydymdeimlad dyfnaf i’w deulu a’i ffrindiau.”

Fe dderbyniodd John Hefin MBE am ei gyfraniad i gyfryngau yng Nghymru, ynghyd â gwobr arbennig BAFTA Cymru 2012.

Roedd ei gyfraniadau fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr yn cynnwys rhaglenni fel Penyberth, Un Nos Ola Leuad a Cartrefi Cefn Gwlad Cymru yn Gymraeg a Bus to Bosworth, Life and Times of David Lloyd George a Grand Slam yn yr iaith Saesneg.

Bu’n gadeirydd Comisiwn Ffilm Cymru a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd ac yn Gymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.

Bydd rhaglenni Heno a Newyddion ar S4C heno yn talu teyrnged i John Hefin.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?