S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C – yn goleuo amserlen y Nadolig

03 Rhagfyr 2012

Bydd S4C yn goleuo amserlen y Nadolig eleni gyda chyfres o fidios arloesol fydd yn cael eu defnyddio i gyflwyno rhaglenni.

 

Mae’r fidios, sy’n ymddangos o heddiw ymlaen (3ydd Rhagfyr), yn gynyrchiadau unigryw gan yr artist golau o Gaerffili, Michael Bosanko, ac adran promos S4C.

Maen nhw’n dangos amryw o ddelweddau sydd wedi’u creu drwy ddefnyddio golau a dull ffotograffiaeth arbennig.

Mae Michael yn creu delweddau trawiadol fel hyn drwy chwifio goleuadau o flaen camera gan dynnu lluniau ‘Amlygiad hir’ neu ‘Long Exposure’.

Yna, mae’n golygu’r fframiau unigol at ei gilydd i greu animeiddiad. Mae’r cyfan yn cael ei wneud heb newid y lluniau sydd wedi’u tynnu mewn unrhyw ffordd.

Dywed Pennaeth Darlledu S4C, Geraint Rowlands:

“Mi fydd y delweddau hyn yn sicr o ddenu llygaid y gwylwyr dros gyfnod y Nadolig. Ry’n ni wastad yn awyddus i chwilio am syniadau gwreiddiol a thrawiadol ar gyfer y cyfnod lliwgar yma - ac mae’r gwaith arbennig yma'n enghraifft wych o hynny.

“Bydd y delweddau trawiadol yn creu teimlad newydd – ac maen nhw’n ffordd arbennig o gyfuno’r traddodiadol a’r cyfoes mewn ychydig eiliadau. Mae hynny’n dweud y cwbl am arlwy S4C dros y Nadolig.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

“Yn ogystal â’r delweddau hynod yma, fe fydd ‘na rhaglenni arbennig iawn ar S4C dros yr wythnosau sydd i ddod.

“Mae ffilmiau Nadoligaidd hyfryd fel Dona Direidi - Be’ Wnei di? i blant a Cyfrinach Teulu Tŷ Crwn i’r teulu cyfan. Hefyd byddwn yn dilyn taith bersonol y cerddor Gruff Rhys yn ffilm Seperado. Mae gyda ni raglen ddogfen ddirdynnol am fywyd a gwaddol Gary Speed, gyda chyfweliadau gan ffrindiau agos ac aelodau o’i deulu. Ond mae digon o hwyl y Nadolig hefyd - ac mae rhaglen arbennig Noson yng Nghwmni Dewi Pws noson y Nadolig yn enghraifft ardderchog o hynny. Bydd cymaint mwy a rhywbeth i bawb ar S4C dros gyfnod y Nadolig.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?