S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sêr yn rhoi eu lleisiau, a rhoddion Nadolig, er budd elusen

03 Rhagfyr 2012

Mae chwech o sêr Cymru wedi gwirfoddoli i roi eu lleisiau canu ar yr awyr – a rhoddion Nadolig ar eBay - er budd elusennau Ambiwlans Awyr Cymru, NSPCC a Gofal Canser Macmillan.

Y chwech yw'r cyn pêl-droediwr Malcolm Allen a'r awdures Catrin Dafydd; y gyflwynwraig Mari Lovgreen a'r actor Richard Ellis; yr awdures gomedi Myfanwy Alexander a'r cyn chwaraewr rygbi Rhodri Gomer Davies.

Mae'r cyfan yn rhan o'r gyfres dair rhan Carolau Gobaith sy'n dechrau ar S4C nos Fercher, 5 Rhagfyr 8.25pm.

A hwythau heb brofiad o ganu'n gyhoeddus, ar ddiwedd y gyfres byddan nhw'n canu mewn cyngerdd ac yn recordio CD - fydd ar gael i'w brynu a'i lawr lwytho o iTunes - ond bydd angen cryn waith i'w paratoi nhw cyn hynny.

Dyma yw'r her sy'n wynebu Tri Tenor Cymru - Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins. Mewn tri thîm, bydd pob Tenor yn gofalu am ddau o'r sêr ac yn rhannu eu harbenigedd a'u profiad er mwyn codi arian i'r tair elusen.

Yn ychwanegol i hyn mae'r sêr, y Tri Tenor a chyflwynydd y gyfres Shân Cothi, wedi cyfrannu eitemau arbennig i'w gwerthu ar eBay.

Ymhlith yr eitemau sydd ar werth mae: cyfle i ymuno â'r Tri Tenor yn y stiwdio wrth iddyn nhw recordio CD newydd; crys rygbi'r Scarlets wedi ei arwyddo gan y tîm; sesiwn hyfforddi pêl-droed gyda Malcolm Allen; a chôt Karen Millen a wisgwyd gan y cymeriad Davina yn Con Passionate.

Hefyd: darn o lenyddiaeth wedi ei ysgrifennu'n arbennig i chi gan Catrin Dafydd a chasgliad o’i nofelau; ffrog fach ddu o Coast; hwdi cast Gwaith/Cartref; a thri chorrach bach i'r ardd ar lun y Tri Tenor, wedi ei harwyddo ganddynt.

Er mwyn hawlio anrheg Nadolig unigryw, bydd angen i chi fwrw eich cynnig ar eBay rhwng dydd Iau 6 Rhagfyr a dydd Sul 16 Rhagfyr. Y cynnig uchaf ar ddiwedd yr ocsiwn ar yr 16 Rhagfyr fydd yn ennill yr eitem, a'r holl elw er budd y tair elusen.

Mae rhagor o wybodaeth am yr her a'r ocsiwn ar wefan S4C - s4c.co.uk/carolaugobaith. Yno hefyd mae dolenni sy'n arwain at safleoedd Just Giving i chi gael noddi ymdrechion y sêr unrhyw bryd.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?