S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ditectif Cymraeg i ddiddanu gwylwyr yn Denmarc

14 Rhagfyr 2012

 Bydd cyfres dditectif o Gymru yn cael ei dangos ar deledu yn Denmarc wedi i ddarlledwyr yn y wlad brynu y gyfres a fydd yn ymddangos gyntaf ar S4C yn 2013.

Bydd fersiwn Saesneg o gyfres Mathias yn cael ei dangos ar DR, sef y sianel oedd yn gyfrifol am gyfres boblogaidd The Killing, sydd â'i thrydedd gyfres ar BBC4 ar hyn o bryd.

Mae Mathias yn cael ei ffilmio yn Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd ar gyfer darlledu ar S4C a'i gwerthu'n rhyngwladol gyda'r teitl Saesneg Hinterland.

Mae'r ffilmio yn digwydd nawr yn Aberystwyth a Cheredigion a bydd y criwiau yn gweithio yno tan mis Mai.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, "Mae dramâu ditectif yn gyfrwng poblogaidd yn rhyngwladol ac fe fydd naws ac awyrgylch gynhyrfus, iasol a dyfeisgar Mathias yn apelio at wylwyr yng Nghymru ac at gynulleidfaoedd tramor.

"Mae'r gwerthiant i sianel DR yn brawf o hyn ac rwy'n hyderus y bydd hi mor boblogaidd ymhlith gwylwyr y sianel ag oedd The Killing."

Mae'r gyfres yn gyd-gynhyrchiad rhwng S4C, ALL3MEDIA International, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C, Fiction Factory a Tinopolis, a bydd yn cael ei dangos ar S4C yn 2013. Mae'r fersiwn Saesneg yn cael ei dosbarthu’n rhyngwladol gan ALL3MEDIA International ac mae BBC Cymru Wales a BBC4 eisoes wedi ei phrynu er mwyn darlledu yn 2014.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?