S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cronfa Ddigidol yn sicrhau presenodeb S4C y tu hwnt i'r teledu

21 Mawrth 2013

Mae Cronfa Ddigidol S4C yn llwyddo i gynhyrchu cynnwys Cymraeg y tu hwnt i'r teledu – ac yn cynyddu profiadau’r gwylwyr o adnoddau digidol.

Dyna farn Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C, Elin Morris wrth i S4C gyhoeddi diweddariad ar gynlluniau buddsoddi’r gronfa ddigidol.

Mae'r Gronfa Ddigidol sydd werth £1m y flwyddyn dros bedair blynedd yn sicrhau bod y Sianel yn cynnig cynnyrch a gwasanaethau creadigol ar draws y llwyfannau digidol. Mae gan S4C Reolwr Digidol sy’n gweithio gyda chomisiynwyr rhaglenni’r Sianel er mwyn sicrhau bod elfennau rhyngweithiol yn cael eu comisiynu ochr yn ochr â rhaglenni teledu. Mae’r rheolwr digidol hefyd yn sicrhau bod cynnwys digidol ychwanegol ar gael i gynulleidfaoedd.

Wrth ddefnyddio cyllid o’r Gronfa Ddigidol, mae S4C yn gweithio ar nifer o gynlluniau i gyhoeddi apps a gemau digidol newydd, yn ogystal ag e-lyfrau.

• Fe fydd App 3D i gyd-fynd â chyfres newydd i blant am fyd natur, a fydd yn ymddangos am y tro cyntaf ar S4C eleni.

• Mi fydd App Saesneg hefyd yn cael ei gyhoeddi i arwain y gynulleidfa i lefydd a gafodd sylw yng nghyfres ‘Llefydd Sanctaidd’. Cafodd y fersiwn Gymraeg ei lansio ym mis Chwefror yn ystod darlledu’r gyfres ar S4C, a bydd yr App Saesneg yn cyd-fynd â’r gyfres Saesneg a fydd yn cael ei darlledu ar BBC4. Mae’r ddwy gyfres, a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng S4C, Cwmni Da a Western Front Films yn dilyn Ifor ap Glyn wrth iddo ymweld â llefydd sanctaidd amrywiol ledled Ynysoedd Prydain.

• Mae S4C hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gemau digidol yn y Gymraeg, ar gyfer plant ac oedolion, fydd yn cael eu lansio ar dabledi a chonsolau gemau yn ystod y flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi'r iaith Gymraeg ar rai o’r platfformau rhyngwladol mwyaf blaenllaw am y tro cyntaf.

Fe fydd nifer o e-lyfrau hefyd yn ymddangos dros y misoedd nesaf drwy gynlluniau’r gronfa ddigidol.

• Bydd e-lyfrau rhyngweithiol newydd i blant yn cael eu cyhoeddi’n fuan, fydd yn cyflwyno plant i gymeriadau lliwgar newydd sbon.

• Byddwn yn dod â hen glasur yn ôl ar ffurf electronig yn y ddiweddarach eleni i gyd-fynd â rhaglen ddogfen arbennig.

Mae nifer o brosiectau digidol eraill yn cael cefnogaeth ariannol gan S4C hefyd:

• Fe fydd cynllun sy’n galluogi pobl ifanc i gael eu deunydd eu hunain ar S4C wrth ffilmio elfennau o’u bywydau bob dydd eu hunain. Bydd hwn yn gynllun ar y cyd a nifer o bartneriaid eraill a bydd yn cael ei lansio yn yr haf.

• Byddwn yn cydweithio gyda’r Theatr Genedlaethol, wrth iddyn nhw gynhyrchu digwyddiad theatrig yn Amgueddfa Caerfyrddin. Byddwn yn ei droi’n ddigwyddiad aml blatfform, gan dargedu cynulleidfaoedd newydd drwy’r gofod digidol.

• Hefyd yn ymddangos ar-lein fydd gwaith enillwyr cystadleuaeth i awduron newydd. Bydd darnau 10 munud y 6 ymgeisydd gorau yn cael eu gwe-ddarlledu, gyda chyfle i un ohonynt gyrraedd y sgrin yn y pen draw.

Wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed ym mis Tachwedd y llynedd, fe ddwedodd Prif Weithredwr y Sianel, Ian Jones ei fod am sicrhau bod S4C yn cynnig gwasanaeth cyflawn ar draws pob platfform digidol i gyd-fynd a dyheadau’r gynulleidfa.

Yn ôl Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C, Elin Morris, bydd y cynlluniau presennol yn cynnig cyfleoedd cyffrous i’r gynulleidfa.

“Mae S4C wedi rhoi cryn bwyslais ar gynlluniau digidol dros y misoedd diwethaf ac mae’n glir o’r rhestr o gynlluniau sydd gyda ni ar y gweill ein bod ni wedi canfod cyfleoedd cyffrous i’r gynulleidfa. Mae’r pwyslais ar hyn o bryd ar gadw cysylltiad cryf rhwng yr arlwy ar y sgrin a chynlluniau digidol ychwanegol i gyfoethogi profiad y gwyliwr. Erbyn hyn, mae pobl yn chwilio am rywbeth ychwanegol i’w wneud wrth wylio rhaglenni, ac mae S4C ar flaen y gad yn datblygu syniadau blaengar o’r fath.

“Mae rhai cynlluniau digidol hefyd yn arwain at gyfleoedd masnachol a allai ddod a buddiannau pellach i S4C. Ry’n ni’n awyddus iawn i ddilyn pob trywydd i chwilio am y cyfleoedd hyn – a gweithio gyda phob math o bartneriaid er lles gwasanaethau S4C.”

Meddai Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C:

“Mae nifer o’r cynlluniau da’n ni wedi’u creu yn dod ag elfennau rhyngweithiol i mewn i’n rhaglenni sy’n golygu bod modd i bobl gael gwerth ychwanegol allan o gynnwys S4C. Mae’r bwriad yn dod o fod wedi gwrando ar y gynulleidfa a gweld y ffordd y mae arferion gwylio’n datblygu. I lawer o’n pobl ifanc yn enwedig, mae’r syniad o ddefnyddio dyfais arall - boed yn ffôn, tabled neu’n gyfrifiadur - tra’n gwylio teledu’n gwbl naturiol. Mae S4C yn datblygu gwasanaethau sy’n gwneud yn fawr o’r newid sylweddol yma yn y ffordd 'dan ni’n ymddwyn.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?