S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddangos Wrecsam v Grimsby yn fyw yn Ffeinal Tlws FA Lloegr

23 Mawrth 2013

Mae S4C wedi llwyddo gyda chais funud olaf i ddangos gem derfynol Tlws FA Lloegr - pan fydd Wrecsam yn herio Grimsby yn Wembley.

Oherwydd trafferthion teithio yn sgil y tywydd garw, fe ofynnodd S4C i’r FA, Wrecsam a Grimsby ailystyried cynnig i ddarlledu’r gêm yn fyw. Mae’r tri wedi cytuno i’r cynnig ac fe fydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C o 1445 ddydd Sul 24ain Mawrth 2013.

Wrth ymateb i’r cytundeb, fe ddwedodd Comisiynydd Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands:

“Mae’r tywydd garw yng ngogledd ddwyrain Cymru’n golygu na fyddai llawer o gefnogwyr wedi medru teithio i Lundain i weld y ffeinal fawr yn Wembley. O ganlyniad, fe gysyllton ni a’r FA i ddweud bod ein cynnig ni i ddangos y gêm yn fyw yn dal ar gael, ac y byddai hynny’n galluogi cefnogwyr sy’n methu teithio i weld y gêm wedi’r cwbl.

“Er nad oedd yr hawliau i ddangos y gêm yma’n fyw ar gael i ni’n wreiddiol, ry’n ni’n falch iawn bod pawb wedi ymateb i’r amgylchiadau newydd a sicrhau bod y cefnogwyr yn cael gweld pob munud o’r gêm hanesyddol hon.”

Nodiadau:

· Mae’r gem yn dechrau am 1500

· Bydd rhaglen uchafbwyntiau hefyd ar S4C am 2210 nos Sul

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?