S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn mentora dawn drama CFfI

05 Ebrill 2013

Bydd S4C yn gweithio gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI Cymru) i gynnig sesiynau mentora er mwyn meithrin doniau drama aelodau'r mudiad.

Mae'r rhaglen Drama'r Ffermwyr Ifanc: Y Gystadleuaeth sydd ar S4C nos Sadwrn 6 Ebrill yn crynhoi uchafbwyntiau cystadleuaeth ddrama CFfI Cymru a gynhaliwyd yn Theatr Y Grand Abertawe ddechrau mis Mawrth. Yn cystadlu roedd 15 o glybiau, yn gymysg o berfformwyr Cymraeg a Saesneg, gyda gwobrau yn cael eu dosbarthu i'r ddrama, actor a'r gwaith technegol gorau yn y ddwy iaith.

Bydd cynllun mentora S4C yn dethol rhai o'r aelodau wnaeth ddisgleirio yn ystod y digwyddiad hwnnw - yn actorion, ysgrifenwyr a gweithwyr technegol - er mwyn meithrin eu dawn. Fel rhan o’r cynllun bydd rhaglen adloniant ysgafn hanner awr o hyd yn cael ei chynhyrchu a’i darlledu ar S4C.

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Rhaglenni Adloniant S4C, "Byddwn yn dethol o blith y doniau disglair y rhai fu'n cymryd rhan yn Y Grand ac yn eu gwahodd i sesiynau mentora fydd yn cael eu cynnal yn hwyrach eleni. Mae'r CFfI yn fudiad gweithgar iawn sy'n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc led led Cymru i berfformio ar lwyfannau proffesiynol a hoffwn ni fel darlledwr rannu ein harbenigedd er mwyn ymestyn y profiad i faes teledu. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i weld ffrwyth eu llafur yn cael ei ddarlledu ar S4C tua diwedd y flwyddyn."

Dywedodd Aled Johnson, Cadeirydd Pwyllgor Gweithgareddau CFfI Cymru, "Bwriad cynnal y gystadleuaeth ddrama oedd rhoi cyfle i aelodau berfformio ar lwyfan proffesiynol fel sydd yn Y Grand. Datblygu talentau sydd i gael yn barod, rhoi hyder i rai sydd ddim yn hyderus ac yn darganfod talent doedden nhw ddim yn gwybod oedd yno ynghynt. Mae cael bod yn rhan o raglen deledu ar S4C yn gyfle i ddangos ymhellach pa dalentau sydd gan y mudiad i'w gynnig."

Un o'r rhai fydd yn cymryd rhan yn y cynllun mentora yw'r actor proffesiynol Rhys ap Hywel, sy’n cyflwyno'r rhaglen Drama'r Ffermwyr Ifanc: Y Gystadleuaeth nos Sadwrn ar S4C. Mae Rhys yn gyn aelod o CFfI Brynherbert ac yn gwybod pa mor werthfawr yw profiadau fel hyn i hybu hyder actorion ifanc.

"Mi fydd yn ddiddorol gweld sut byddan nhw'n dod 'mlaen gyda'r mentora. Oni'n sylwi wrth wylio'r cystadlu yn Y Grand bod sawl perfformiad cryf iawn i gael. Roedd chwech neu saith actor da iawn, llawn cystal ag actorion proffesiynol," meddai Rhys ap Hywel, sydd wedi serennu yn Pobol y Cwm, Teulu a'r ffilm Ryan a Ronnie ar S4C. "Mae angen dau beth i ddweud y gwir. Rhaid bo 'da ti'r gallu i actio yn y lle cynta' ac roedd digon o'r gallu yna ar lwyfan Y Grand. Ac yn ail, mae angen i ti allu cadw dy cŵl."

Bydd y sesiynau mentora yn cael eu trefnu a'u cynnal yn hwyrach eleni. Bydd rhaglen arbennig yn dangos y broses mentora a'r rhaglen adloniant hanner awr yn cael eu darlledu ar S4C tua diwedd y flwyddyn.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?