S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen Newyddion arbennig ar ddiwrnod angladd Margaret Thatcher

16 Ebrill 2013

Fe fydd S4C yn dangos rhaglen newyddion arbennig ddydd Mercher 17eg Ebrill 2013 i adlewyrchu angladd cyn Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, Margaret Thatcher a fu farw wythnos ddiwethaf.

Yn dilyn gwasanaeth yr angladd yn y bore, fe fydd rhaglen hanner awr arbennig gan BBC Cymru Wales yn rhoi sylw i'r digwyddiad am 1230. Bydd y newyddion nosweithiol am 1930 hefyd yn crynhoi digwyddiadau'r dydd yn Llundain yn ogystal â gweddill y newyddion o Gymru a'r tu hwnt.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?