S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Criw Cyw S4C i ddiddanu plant yn Fferm Folly ar Ŵyl y Banc

24 Ebrill 2013

Ar 6 Mai, dydd Llun Gŵyl y Banc, eleni bydd cyflwynwyr a chymeriadau Cyw yn cynnal diwrnod o weithgareddau i blant yn Fferm Folly, Sir Benfro.

Cyw yw Gwasanaeth plant S4C sy'n cael ei ddarlledu ar y Sianel bob diwrnod o'r wythnos ac sydd â rhaglenni i'w gwylio ar-lein hefyd - s4c.co.uk/cyw.

Bydd Rachael, Gareth, Einir a Trystan, cyflwynwyr poblogaidd Cyw yn perfformio sioe Cyw deirgwaith yn ystod y dydd, a bydd y cymeriad hoffus Dona Diriedi hefyd ar y fferm i ddiddanu’r plant.

Bydd croeso i'r plant ymuno yn yr hwyl wrth ddawnsio gyda Dona neu gymryd rhan yn un o ddwy helfa Cyw. Bydd helfa drysor Cyw a helfa gardiau Cyw yn mynd â'r rhai bach ar daith o amgylch y fferm ac yn gyfle i ennill llwyth o wobrau gwych.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C:

"Mae plant yn dotio ar Cyw, y cyflwynwyr a'r cymeriadau, ac mae'n braf cael cynnal diwrnod fel hwn sy'n rhoi cyfle i nifer fawr o ddilynwyr y gwasanaeth ymuno yn yr hwyl.

"Mae Cyw yn wasanaeth cynhwysfawr gyda'r rhaglenni, yr apiau a'r ffrwd trydar @TifiaCyw, ac mae dyddiau fel hyn hefyd yn gyfle da i bobl sydd ddim yn gyfarwydd â'r gwasanaeth weld yr hyn sydd gan Cyw i'w gynnig."

Ac mae Gareth Delve, un o gyflwynwyr Cyw hefyd yn edrych ymlaen yn fawr:

“Mae wastad yn hwyl cael perfformio’n fyw i’r plant sydd yn gwylio Cyw, ac mae’r pedwar ohono’ ni wedi cyffroi’n fwy nag arfer am y digwyddiad yma. Dewch â'r teulu i gyd am dro i'r Fferm, mi fyddwn ni'n dawnsio yn chwarae gemau ac yn canu trwy'r dydd. Ry' ni’n siwr o gael llond ysgubor o hwyl a sbri!”

Am wybodaeth teithio a phrisiau, ewch i gael golwg ar wefan Fferm Folly:

http://www.folly-farm.co.uk/ neu ewch i safle oedolion gwefan Cyw s4c.co.uk./cyw.

Enillodd Fferm Folly y wobr am y Diwrnod Gorau i'r Teulu yng Nghymru gan Fwrdd Croeso Cymru yn 2005 a 2010, ac mae criw Cyw yn siŵr o ddyblu’r hwyl, felly cofiwch alw draw. Mae croeso i bawb!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?