S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newyddion Arbennig: April Jones

30 Mai 2013

 Bydd rhaglen newyddion estynedig Newyddion Arbennig: April Jones yn cael ei darlledu am 9.35 heno ar S4C (nos Iau, 30 Mai) yn dilyn dyfarnu Mark Bridger yn euog o gipio a llofruddio April Jones.

Bydd y rhaglen arbennig estynedig yn dilyn rhaglen Newyddion S4C sydd am 9.15.

Naw mis wedi i'r ferch bum mlwydd oed fynd ar goll, cafwyd Mark Bridger, 47 o Geinws ger Machynlleth, yn euog o'r tri cyhuddiad yn ei erbyn, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar brynhawn Iau, 30 Mai.

Fe gafwyd yn euog o gipio a llofruddio April Jones, ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dim ond y llofrudd sy’n gwybod beth ddigwyddodd i gorff y ferch bum mlwydd oed ar ôl iddo ei chipio. Bydd y rhaglen Newyddion Arbennig: April Jones, gan BBC Cymru Wales, yn edrych mewn manylder ar y bennod dywyll hon yn hanes tref Machynlleth.

Bydd y rhaglen ar gael i'w gwylio ar-lein ar s4c.co.uk/clic ble bydd ar gael am 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf.

Newyddion Arbennig: April Jones

Nos Iau 30 Mai 9.35, S4C

Isdeitlau Saesneg

Diwedd

Cliciwch yma i weld yr amserlen newydd yn llawn

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?