S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilyn Y Seintiau yn Ewrop yn fyw ar wefan S4C

15 Gorffennaf 2013

  Bydd modd dilyn ymdrechion Pencampwyr Cymru wrth iddyn nhw gystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA yn fyw ar wefan S4C.

Gwyliwch y gemau yn fyw ar wefan Sgorio neu ar Clic.

Pencampwyr Gwlad Pwyl, Legia Warsaw yw gwrthwynebwyr Y Seintiau Newydd yn ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth. Bydd y ddau gymal yn cael eu darlledu'n fyw ar wefan S4C - s4c.co.uk - a bydd y rhaglen Sgorio yn dangos uchafbwyntiau'r ddau gymal ar S4C am 11.00 o'r gloch ar nosweithiau’r ddwy gêm.

Bydd y ddau dîm yn cwrdd am y tro cyntaf ar ddydd Mercher 17 Gorffennaf, wrth i'r Seintiau Newydd groesawu’r Pwyliaid i Gymru ar gyfer y cymal cyntaf ar y Cae Ras, Wrecsam. Gwyliwch y gêm yn fyw ar s4c.co.uk am 7.00yh, gyda'r gic gyntaf am 7.15. Bydd y gêm hon ar gael i'w gwylio yn fyw ar-lein ar draws y byd, ar wahân i Wlad Pwyl.

Ar y dydd Mercher canlynol, 24 Gorffennaf, tro Y Seintiau Newydd yw hi i deithio i Wlad Pwyl ar gyfer yr ail gymal yn Stadiwm Pepsi Arena, Warsaw. Gwyliwch y gêm yn fyw am 7.40yh ar wefan S4C a bydd y gêm hon yn cael ei darlledu'n fyw arlein yn y DU yn unig.

Bydd y rhaglen Sgorio ar S4C yn dangos uchafbwyntiau'r ddau gymal am 11.00yh yr un noson â'r gemau.

Dyma fydd 15fed ymgyrch Ewropeaidd Y Seintiau Newydd, sy'n record i dîm Cymreig. Gyda sawl chwaraewr rhyngwladol yng ngharfan Legia, bydd yn dalcen caled i bencampwyr Cymru. Ond ar ôl colli dwy gêm gartref yn unig o'u chwe gêm Ewropeaidd ddiwethaf, bydd y tîm o Groesoswallt yn gobeithio creu sioc a chwifio'r faner dros Gymru unwaith eto.

Diwedd

Gwyliwch y gemau yn fyw ar wefan Sgorio neu ar Clic.

Sgorio: Y Seintiau Newydd v Legia Warsaw

Nos Fercher 17 Gorffennaf

Yn fyw ar s4c.co.uk am 7.00

Uchafbwyntiau ar S4C am 11.00

Sgorio: Legia Warsaw v Y Seintiau Newydd

Nos Fercher 24 Gorffennaf

Yn fyw ar s4c.co.uk am 7.40

Uchafbwyntiau ar S4C am 11.00

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?