S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni S4C i ymddangos ar BBC iPlayer

06 Awst 2013

Mae BBC Cymru ac S4C wedi cyhoeddi y bydd holl raglenni S4C ar gael ar BBC iPlayer erbyn hydref flwyddyn nesaf.

Fe fydd y gwaith technegol ar y prosiect yn dechrau ar unwaith â’r bwriad o sicrhau presenoldeb S4C fel sianel lawn, yn fyw ac ar alw, ar yr iPlayer erbyn hydref 2014. S4C fydd yr unig sianel annibynnol i ymddangos ar yr iPlayer ac mae’r datblygiad yn adlewyrchu’r bartneriaeth unigryw rhwng y sianel a’r BBC.

Mae BBC iPlayer ar gael yn rhad ac am ddim ar dros 650 o blatfformau a dyfeisiau yn y DU. Ym mis Mehefin eleni, derbyniodd y gwasaneth fideo ar alw poblogaidd 239 miliwn o geisiadau am raglenni teledu a radio y BBC – cynnydd o 45 y cant ers Mehefin 2012. Mae’n galluogi gwylwyr i wylio rhaglenni naill ai’n fyw neu eu gwylio ar alw lle bynnag a phryd bynnag y mae nhw’n dymuno – ar gyfrifiaduron, ffonau symudol, tabledi a setiau teledu cysylltiedig. Mae gan wylwyr yr opswin hefyd o lawrlwytho rhaglenni teledu ar rai dyfeisiau i’w gwylio rywbryd arall.

Rhoddwyd caniatâd i’r cynllun gan Ymddiriedolaeth y BBC ar ôl i S4C wneud cais i’r BBC yn gofyn am ymddangos fel sianel lawn gyda’i holl raglenni ar iPlayer. Y bwriad yw lansio’r gwasanaeth newydd, am gyfnod prawf o 18 mis i gychwyn, yn hydref 2014.

Fe fydd trefniadau golygyddol yn cael eu cytuno'n ffurfiol rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C cyn y lansiad.

Yn ôl Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, mae’r datblygiad yn un arwyddocaol a fydd yn sicrhau bod holl raglenni teledu a radio Cymraeg y BBC ac S4C ar gael mewn un lle.

Dywedodd Sian Gwynedd:

“Mae hwn yn ddatblygiad hynod o bwysig a fydd yn sicrhau bod holl raglenni teledu Cymraeg y BBC ac S4C, yn ogystal â rhaglenni BBC Radio Cymru, ar gael yn fyw ac ar alw nid yn unig i gynulleidfaoedd yng Nghymru ond ledled y DU.

“Mae BBC Cymru wedi ymrwymo i ehangu apêl a chyrhaeddiad cynnwys Cymraeg ar-lein ac mae’r datblygiad hwn yn cefnogi ein hawydd i wella’r ddarpariaeth i siaradwyr Cymraeg trwy ei gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i gynnwys sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg.

“Mewn marchnad ddigidol fyd-eang does neb yn medru gwadu’r her sy’n wynebu’r iaith Gymraeg ond trwy weithio mewn partneriaieth gydag S4C rydym yn gallu manteisio ar y tŵf anhygoel ym mhoblogrwydd a defnydd BBC iPlayer i ddod â rhaglenni Cymraeg i’r nifer mwyaf posib o wylwyr. Mae’n wych ein bod, trwy gydweithio agos ac adeiladol, yn medru cynnig y gwasanaeth hwn i’n cynulleidfaoedd ac mae sefydlu S4C fel yr unig sianel annibynnol ar BBC iPlayer yn adlewyrchu ein partneriaeth unigryw gyda’r sianel.”

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Mae sicrhau lle i gynnwys S4C ar BBC iPlayer yn ddatblygiad cyffrous iawn. Mantais enfawr BBC iPlayer yw ei fod ar gael ar dros 650 o ddyfeisiau a phlatfformau yn rhad ac am ddim yn y DU – sy’n cynnig llwyfannau newydd i gynnwys gwych S4C.

“Mae hyn yn gam sylweddol arall yn ein hymdrechion fel sianel i sicrhau bod cynnwys S4C ar gael mewn cymaint â phosib o ffyrdd i gymaint â phosib o bobl.”

Ers ei lansio yn 2007 mae BBC iPlayer wedi addasu i gynnwys cyfresi cyfan, ffilmiau, rhaglenni radio a sianeli teledu a gorsafoedd radio byw. Mae rhaglenni teledu Cymraeg BBC Cymru Wales ar S4C, a rhaglenni BBC Radio Cymru eisoes ar gael ar BBC iPlayer.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?