S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llwyddiant i raglenni S4C yn Seremoni Wobrwyo BAFTA Cymru

30 Medi 2013

Roedd hi'n noson lwyddiannus iawn i S4C yn Seremoni Wobrwyo flynyddol BAFTA Cymru.

Enillodd y Sianel 11 o wobrwyon, o'r 29 oedd ar gael.

Enillodd y ddrama Alys ddwy wobr - gyda Sara Lloyd Gregory yn ennill tlws yr Actores Orau am chwarae'r brif ran, a Richard Wyn yn ennill gwobr Ffotograffiaeth a Goleuo.

Cafwyd cydnabyddiaeth i raglenni plant S4C wrth i Dwylo'r Enfys (Ceidiog) ennill yng nghategori Rhaglen Blant (yn cynnwys animeiddio), ac aeth gwobr Effeithiau Gweledol a Graffeg i raglen Bla Bla Blewog (Adastra).

Enillwyd y wobr am y Rhaglen Cerddoriaeth ac Adloniant Orau gan Côr Cymru: Corau Plant (Rondo). Ac enillodd y ffilm fer Cân i Emrys (Double Agent) yng nghategori Ffurf Byr ac Animeiddio.

Aeth y wobr Materion Cyfoes i raglen Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru)S4C am eu rhaglen am farwolaethau cyffuriau ar Ynys Môn.

Enillodd rhaglenni S4C o'r Sioe Amaethyddol Frenhinol (Boom Pictures Cymru) wobr Rhaglen Chwaraeon a Darllediad Allanol Byw orau. Ac aeth Gwobr Torri Drwodd i Gwion Lewis am gyflwyno rhaglen Cymdeithas yr Iaith yn 50 (Rondo).

Cafwyd cydnabyddiaeth i ddwy o raglenni ffeithiol S4C - Gerallt (Cwmni Da) yng nghategori Dogfen Sengl; a chafodd Mei Williams BAFTA am y Cyfarwyddwr Ffeithiol gorau am ei ddogfen Fy Chwaer a Fi (Boom Pictures Cymru).

Yn ogystal â'r 11 BAFTA i raglenni S4C, fe dderbyniodd un o wynebau mwyaf cyfarwydd y sianel wobr arbennig BAFTA am gyfraniad arbennig i deledu. Fe gafodd Dewi Llwyd ei anrhydeddu gan BAFTA Cymru am ei yrfa hir a disglair mewn newyddiaduraeth Gymraeg, sy'n parhau hyd heddiw wrth iddo gyflwyno Pawb a'i Farn (BBC Cymru) ar S4C.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C Dafydd Rhys:

"Mae'r gydnabyddiaeth arbennig yma i gynnwys S4C yn braf iawn i'w gweld. Mae'n dystiolaeth bellach o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud ar y cyd gyda chynhyrchwyr ledled Cymru. Mae'n glir bod y dalent sy'n bodoli yn y sector cynhyrchu annibynnol ac o fewn rhengoedd BBC Cymru ac ITV Cymru yn sicrhau bod S4C yn gallu cynnig cynnwys o'r safon uchaf, a chyfraniadau arbennig i fywyd Cymru."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?