S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu Cyngerdd Agoriadol Gŵyl WOMEX

03 Hydref 2013

 Dair wythnos cyn i Ŵyl Gerddoriaeth Byd WOMEX agor yng Nghaerdydd gall S4C gyhoeddi y bydd Cyngerdd Agoriad yr Ŵyl yn cael ei ddarlledu ar y Sianel.

Bydd Gwlad y Gân, Cyngerdd Agoriadol Gŵyl WOMEX 2013 yn cael ei ddarlledu ar S4C nos Iau 24 Hydref.

WOMEX yw'r prif ddigwyddiad blynyddol i arddangos cerddoriaeth ryngwladol ac fe'i cynhelir mewn dinasoedd ledled Ewrop. Eleni, bydd Cymru yn croesawu'r Ŵyl am y tro cyntaf, a Dinas Caerdydd fydd yn llwyfan i artistiaid o bob cwr o'r byd eleni.

Y gantores Cerys Matthews yw cyfarwyddwr artistic Gwlad y Gân, Cyngerdd Agoriadol yr Ŵyl a gynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fercher 23 Hydref, ac a fydd hefyd yn cael ei ddarlledu ar S4C y noson ganlynol.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Gyngerdd Agoriadol yr Ŵyl gael ei ddarlledu ar y teledu. Cynhyrchir y rhaglen i S4C gan gwmni Rondo a Telesgop ar y cyd.

Yn Gwlad y Gân bydd cerddorion a dawnswyr blaenllaw o Gymru'n ymuno â Cerys Matthews i dywys y gynulleidfa a'r gwylwyr ar siwrna trwy 30,000 o flynyddoedd o hanes, cerddoriaeth a diwylliant Cymru.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

"Mae'n wych bod dinas Caerdydd wedi llwyddo i ddenu Gŵyl WOMEX ac rydym yn hynod falch o fod yn darlledu cyngerdd agoriadol yr Ŵyl ar S4C eleni. Mae Gwlad y Gân yn mynd i fod yn wledd o gerddoriaeth Gymraeg ac rydym yn falch iawn o fedru mynd a Gŵyl WOMEX i Gymru gyfan a thu hwnt."

Meddai Cerys Matthews, Cyfarwyddwr Artistic Gwlad y Gân:

"Mae'r World Music Expo, WOMEX, (Fersiwn Cerddoriaeth Byd o Ŵyl Ffilmiau Cannes) yn glanio ac yn setlo yng Nghaerdydd eleni, dinas y stadiwm, yr afon a'r gân.

"Yn goron ar Ganolfan y Mileniwm mae'r geiriau 'Creu Gwir fel Gwydr o Ffwrnais Awen' ac yn wir mi fydd drysau'r Ganolfan ar agor led y pen eleni wrth iddi groesawu cynrychiolwyr o bedwar ban byd a phobl leol ar gyfer dathliad o gân, dawns a barddoniaeth.

"Gyda'n gilydd mi fyddwn ni'n crwydro trwy 30,000 o flynyddoedd o hanes Cymru a'i diwylliant yng nghwmni rhai o brif gerddorion gwerin Cymru, Cass Meurig, Gwenan Gibbard, D n A, Georgia Ruth, Patrick Rimes, Siân James, Robin Huw Bowen, gwaith ar y cyd rhwng Cymru ac India gan Gwyneth Glyn a Tauseef Akhtar, ‘Ghazalaw’, Twm Morys a llawer mwy. A bydd clocswyr 'Dawnswyr Bro Taf' yn cadw curiad i ddawnswyr cenedlaethol Ballet Cymru i gyfeiliant ein caneuon eiconig. Fe fyddwn yn cyfri geifr, yn dathlu'r sosban fach, yn crwydro dros greigiau ac yn cynhesu'r awditoriwm yn barod ar gyfer harmonïau cynnes Gwlad y Gân, yng nghwmni Côr Meibion Treorci a chôr Ysgol Gynradd Mount Stuart. "

Yn ogystal â Chyngerdd Gwlad y Gân bydd rhaglen arbennig o'r enw I'r Byd o Acapela yn cael ei darlledu ar y Sianel nos Fawrth 22 Hydref. Bydd I'r Byd o Acapela yn cynnwys perfformiadau o gerddoriaeth werin a cherddoriaeth byd, gan artistiaid megis Calan, Ryland Teifi, Ballet Nimba, Seckou Keita a Ghazalaw.

Bydd y rhaglen nosweithiol Heno hefyd yn rhan o'r bwrlwm wrth iddynt ddarlledu'n fyw o ganol cynnwrf WOMEX yn y brifddinas nos Fercher 24, nos Iau 25, a nos Wener 26 Hydref, gyda phigion o weithgareddau'r dydd a chipolwg ar yr hyn sydd i ddod gyda'r nos.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?