S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hacio ar daith i weld democratiaeth ar waith

15 Hydref 2013

Cannoedd o bobl ifanc i gael lleisio eu barn fel rhan o gynllun cenedlaethol newydd

Fe fydd cannoedd o fyfyrwyr ar draws Cymru’n cael blas ar gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd a cheisio canfod atebion i rai o’r materion mawr sy’n effeithio ar eu bywydau nhw fel rhan o gynllun ar y cyd rhwng S4C, y Cynulliad Cenedlaethol a rhaglen Hacio ITV Cymru.

Y nod yw rhoi cyfle i bobl ifanc godi llais a chynnig atebion i rai o’r problemau sy’n codi o’u profiadau bob dydd.

Fe fydd digwyddiadau trafod a dadlau Hacio‘n Holi yn cael eu cynnal mewn 8 o ysgolion ar draws Cymru dros y pythefnos nesaf. Bydd rhwng 70 a 100 o bobl yn cymryd rhan yn y sesiynau yn yr ysgolion - cyn i grwpiau o bob ysgol gael y cyfle i wneud eu marc yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Ar y 20 Tachwedd fe fydd cynrychiolaeth o 6 disgybl o bob ysgol yn cymryd rhan mewn dadl fawr Hacio’n Holi ar lawr Siambr Hywel yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd pob sesiwn yn cael ei llywio gan un o gyflwynwyr Hacio, Catrin Haf Jones - sydd wedi hen arfer â delio gyda straeon newyddion sy’n bwysig i’r cenedlaethau iau. Ac mae’r pynciau fydd dan sylw yn ystod y daith wedi’u dewis gan y myfyrwyr eu hunain. Y pynciau fydd:

• Delwedd

• Seibrfwlio a’r cyfryngau cymdeithasol

• Delio â phwysau wrth wneud arholiadau a ffeindio swydd

• Y Gymraeg

Yn ystod y sesiwn olaf yn y Cynulliad Cenedlaethol, fe fydd dau o’r pynciau hyn yn cael eu trafod ynghyd ag un cwestiwn ychwanegol, sef sut y gall llais pobl ifanc gael ei glywed yn gliriach yn y Gymru fodern?

Wrth groesawu’r cynllun sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan S4C, Y Cynulliad Cenedlaethol a rhaglen Hacio ITV Cymru, fe ddywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC:

“Mae’n wych o beth bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu cefnogi S4C ac ITV Cymru Wales yn y fenter hon.

"Pobl ifanc yw dyfodol Cymru. Dyna pam rydyn ni’n cynnal ymgynghoriad cenedlaethol â phobl ifanc, sef ‘Dy Gynulliad di - dy lais di, dy ffordd di’, sy’n gofyn i bobl ifanc sut ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymgysylltu â nhw.

“Rydyn ni am i bobl ifanc ddweud wrthym beth sy’n bwysig iddyn nhw, beth maen nhw’n ei ddisgwyl gennym ni a beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.”

Ym mis Medi, lansiwyd gwefan newydd, www.dygynulliad.org, er mwyn annog pobl ifanc i ddweud wrth y Cynulliad beth sy’n eu poeni a sut yr hoffen nhw gymryd rhan.

“Mae’r drafodaeth hon yn cynnig cyfle arall i hyrwyddo’r ymgyrch hon ac i sicrhau bod pobl ifanc yn trafod y materion sy’n bwysig iddyn nhw.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis:

“Mae trafod pynciau mawr y dydd a chanfod atebion i’n problemau yn rhai o hanfodion ein sefydliadau democrataidd. Ond ydi materion sy’n bwysig i’n pobl ifainc yn cael eu trafod? Ydi llais ein pobl ifanc yn cael ei glywed? Wel dyma gyfle pobl ifanc o bob rhan o Gymru i lwyddo i wneud hynny drostyn nhw eu hunain.

“Mae’n bleser i allu cydweithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol ac ITV Cymru i sicrhau bod cynllun Hacio’n Holi yn digwydd, a’n bod yn cyflawni rhywbeth gwerthfawr iawn, sef rhoi llais i’n pobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth am y ffordd y mae’n sefydliadau democrataidd yn gweithio.”

Dywedodd Golygydd Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru, Geraint Evans:

“Mae Hacio'n un o'r rhaglenni prin ar deledu sy'n rhoi cyfle i bobol ifanc leisio barn am wleidyddiaeth a materion cyfoes. Ein gwaith ni yw ymchwilio i'r pethau sy'n effeithio ar eu bywydau nhw a chodi'r materion yma gyda'r rhai sydd mewn grym.

“Rwy'n gobeithio y bydd y daith yma'n gyfle i ni agosau at ein cynulleidfa, ac i glywed beth yw'r pynciau sy'n eu corddi nhw. Rwy'n siwr y clywn ni ddadleuon difyr a thrafodaethau tanbaid, ac y bydd hyn yn fodd i ni ddarganfod y genhedlaeth nesaf o gyfranwyr a newyddiadurwyr.”

Diwedd

Nodiadau:

Fe fydd sesiynau Hacio’n Holi yn cael eu cynnal yn yr ysgolion canlynol:

Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth    15 Hydref 

Ysgol Maes y Gwendraeth, Cefneithin    16 Hydref

Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman    17 Hydref

   

Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Maesteg   18 Hydref

Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst    21 Hydref

Ysgol David Hughes, Porthaethwy    22 Hydref

Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug    23 Hydref 

Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan   24 Hydref

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?