S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i gynnal cyngerdd i godi arian at apêl y Philipinau

15 Tachwedd 2013

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd cyngerdd arbennig yn cael ei chynnal nos Sul yma (17 Tachwedd, 2013) i godi arian at Apêl y Philipinau DEC.

Ymysg yr enwau sydd wedi’u cadarnhau i ymddangos hyd yma y mae’r canwr byd-enwog Paul Potts a bydd y noson yn cael ei llywio gan y comedïwr o Fôn, Tudur Owen.

Mae’r Sianel wedi gwneud trefniadau brys i gynnal y gyngerdd a fydd yn digwydd ar faes Sioe Sir Fôn ar Ynys Môn, i ddechrau am 6.30 yr hwyr, ac yn cael ei darlledu’r un noson ar S4C.

Yn sgil y teiffŵn sydd wedi taro’r Philipinau, credir bod miloedd o bobl yn farw, a degau o filoedd yn rhagor yn ddigartref ar yr ynysoedd.

Fe fydd y digwyddiad yn cael ei gynhyrchu gan gwmni Rondo i S4C ac mae’r artistiaid canlynol wedi cytuno i berfformio:

Paul Potts

Bryn Fôn

Elin Fflur

Tudur Owen

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

“Mae’r golygfeydd o’r Philipinau ar y newyddion wedi dangos yn glir y trychineb enfawr sydd wedi taro’r wlad a’r dioddefaint enbyd yno yn sgil y teiffŵn.

“Wrth drafod pa gyfraniad y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo’r apêl am arian, fe ddaeth i’r amlwg bod modd inni lwyfannu cyngerdd ar Ynys Môn nos Sul, ac y gallai hynny ddarparu hwb i’r ymdrechion i godi arian.

“Dwi’n ddiolchgar iawn i gwmni Rondo am ymateb mor gyflym ac wrth gwrs i’r holl artistiaid sydd wedi ymrwymo i berfformio hyd yma ac eraill sydd wedi cynnig eu cefnogaeth.

“Dwi’n gobeithio y bydd y gyngerdd yn helpu i godi mwy o arian er mwyn lleihau dioddefaint pobl y Philipinau.”

Diwedd

Nodiadau:

Amser y gyngerdd: Nos Sul 17 Tachwedd 6.30

Lleoliad:   Maes Sioe Sir Fôn, Gwalchmai, Ynys Môn, LL65 4RW

Tocynnau:   Oedolion £10; Plant £5 – ar gael wrth gyrraedd.

Darllediad:   S4C, Nos Sul 17 Tachwedd 7.30

Manylion apel y DEC:  

0370 60 60 900

http://dec.org.uk/how-to-help;

DEC Philippines Typhoon Appeal

PO Box 999

London

EC3A 3AA

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?