S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cynulleidfa hael yn cefnogi Cyngerdd Apêl y Philipinau

18 Tachwedd 2013

Daeth dros 400 o bobl i'r gyngerdd arbennig a gynhaliwyd ar Faes Sioe Môn nos Sul (17 Tachwedd) gan gyfrannu £4386 tuag at Apêl y Philipinau DEC.

Mae'r cyfanswm hwn yn gyfuniad o'r arian a gasglwyd drwy bris tocyn a chyfraniadau pellach ar y drws. Yn ogystal â hyn, bu gwylwyr yn anfon eu cyfraniadau yn uniongyrchol at yr apêl drwy linell ffôn a gwefan y DEC, gyda'r manylion yn cael eu harddangos ar y sgrin gydol y darllediad ar S4C.

Yn perfformio yn Cyngerdd Apêl y Philipinau roedd artistiaid adnabyddus yn cynnwys y gantores o Fôn, Elin Fflur; Bryn Fôn; enillydd Britain's Got Talent, Paul Potts; y delynores Siân James; Alys Williams, wnaeth yn dda ar gyfres The Voice; ynghŷd â'r cantorion ifanc Joshua Owen Mills a Jessica Robinson. Yn diddanu hefyd roedd rhai o dalentau disglair yr Ynys: Côr Ieuenctid Môn a Chôr Hŷn Glanaethwy, gyda'r comedïwr Tudur Owen yn llywio'r noson.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae diolch mawr i bawb a ddaeth i'r gyngerdd nos Sul am eu cyfraniadau hael. Diolch hefyd i'r trefnwyr a'r perfformwyr am eu gwaith caled a'u hamser i gynnal sioe arbennig er budd achos da, a hynny gydag ychydig iawn o amser i'w threfnu."

Cafodd y gyngerdd ei chynnal gan gwmnïau cynhyrchu Rondo a Telesgop a'i darlledu ar S4C yr un noson. Mae modd gwylio'r gyngerdd ar-lein, ar alw, ar s4c.co.uk/clic ac i gyfrannu at yr achos cysylltwch â DEC drwy ffonio 0370 60 60 900; neu ar y wefan dec.org.uk

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?