S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Derbyn ceisiadau ar gyfer Cân i Gymru 2014

04 Rhagfyr 2013

 Mae cystadleuaeth Cân i Gymru 2014 wedi agor, ac mae gan gyfansoddwyr a cherddorion ychydig dros fis i anfon eu caneuon am y cyfle i ennill £3,500 a thlws Cân i Gymru.

Yn dilyn llwyddiant y newidiadau i'r gystadleuaeth yn 2013, bydd Cân i Gymru 2014 yn dilyn yr un patrwm. Bydd y chwe chyfansoddwr ar y rhestr fer yn derbyn hyd at £900 ar gyfer talu i dreulio amser mewn stiwdio, a gweithio gyda chynhyrchydd o'u dewis, i baratoi'r gân ar gyfer y rownd derfynol.

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Adloniant S4C, fod y drefn newydd yn 2013 wedi bod yn gam poblogaidd.

Meddai Gaynor Davies, "Bwriad y newidiadau oedd rhoi rhyddid i gyfansoddwyr ddatblygu eu cân eu hunain fel roedden nhw wedi bwriadu iddi fod. O ganlyniad, fe gawsom ni chwe chân wreiddiol ac unigryw wnaeth gyffroi'r gystadleuaeth ond sydd hefyd wedi cyfrannu at y sin gerddoriaeth ehangach. Dwi'n hyderus y bydd yr un peth yn wir am y gystadleuaeth eleni."

Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw nos Fercher 8 Ionawr, 2014 am 5.30yh. Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn y gwanwyn, 2014, ac yn cael ei darlledu ar S4C.

Mae'r ffurflen gais, ynghyd â'r rheolau a'r amodau ar gael ar wefan s4c.co.uk/canigymru neu drwy gysylltu â’r cwmni cynhyrchu Avanti ar cais@avantimedia.tv neu 02920 838 149

Yn fuddugol yn 2013 roedd Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams o'r band Jessops a'r Sgweiri, gyda'r gân roc a rôl Mynd i Gorwen Efo Alys. Roedd cael y cyfle i gynhyrchu'r gân eu hunain yn ffordd o ddenu’r band i gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2013.

"Dwi'n falch iawn bod yr un drefn yn cael ei chadw eleni," meddai Rhys Gwynfor. "Mae o'n wahoddiad i bobl wahanol fyddai ddim fel arfer yn trio Cân i Gymru - fel wnaethon ni yn y gystadleuaeth ddiwetha'."

Ar ôl y fuddugoliaeth ym mis Mawrth 2013, mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i Jessops a'r Sgweiri.

"Mi fuodd Cân i Gymru yn blatfform andros o dda i gael ein henw ni allan yno a 'da ni wedi cael llwyth o gigs yn ystod y flwyddyn," meddai Rhys. "Mae gennym ni bedwar rŵan wedi eu trefnu cyn 'Dolig, ac yn y Flwyddyn Newydd byddwn ni'n dechrau recordio ein halbwm cynta'. Mae agos at dri chwarter ohoni wedi ei sgwennu'n barod."

A beth am y tlws? Ble mae o wedi bod yn byw yn ystod y naw mis diwetha’?

"Mae o wedi bod efo Osian ac wedi bod efo'r hogia eraill hefyd yn ei dro. Ond mae o acw gen i erbyn hyn," meddai Rhys.

Ewch i wefan s4c.co.uk/canigymru am fanylion sut i gystadlu yn Cân i Gymru 2014.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?