S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwasanaeth Coffa Mandela yn fyw ar S4C

09 Rhagfyr 2013

Fe fydd S4C yn darlledu yn fyw o Wasanaeth Coffa Nelson Mandela o Stadiwm FNB yn Soweto, De Affrica ddydd Mawrth (10 Rhagfyr 2013) o 12.00 ymlaen.

Ymunwych â thîm gwasanaeth Newyddion S4C - cynhyrchiad BBC Cymru Wales - ar gyfer digwyddiad lle mae disgwyl i wladweinwyr o bedwar ban byd, ynghyd â 95,000 o bobl De Affrica fynd i’r gwasanaeth i gofio cyfraniad cyn Arlywydd y wlad.

Fe fydd darllediad S4C ar y rhaglen Newyddion Arbennig; Gwasanaeth Coffa Nelson Mandela yn dechrau am 12.00 canol dydd ac yn para tan ddiwedd y gwasanaeth (oddeutu 1.15pm).

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Mae bywyd a chyfraniad Nelson Mandela wedi cyffwrdd a dylanwadu ar bobl ledled y byd ac mae ei ddylanwad ar gymunedau Cymru hefyd yn fawr.

“Rydym yn falch iawn bod ein tîm newyddion yn BBC Cymru Wales yn gallu ymateb i’r galw ymhlith pobl Cymru i dalu teyrnged i’r cawr gwleidyddol hwn trwy ddarlledu’r digwyddiad hanesyddol yn fyw o Dde Affrica.”

Am y wybodaeth ddiweddara am amserlen S4C, ewch i s4c.co.uk

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?