S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged i’r Arglwydd Roberts o Gonwy

14 Rhagfyr 2013

Yn sgil y newyddion am farwolaeth yr Arglwydd Roberts o Gonwy, fe ddywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

“Roedd Wyn Roberts yn angel gwarcheidiol i’r iaith Gymraeg ac i S4C o fewn Llywodraeth Geidwadol yr 80au a’r 90au. Roedd y ddau yn agos at ei galon ac fe wnaeth bopeth o fewn ei allu i’w hyrwyddo a’u cefnogi. Daliodd i weithio drostynt yn Nhŷ’r Arglwyddi ac roedd ei gyngor doeth yn amhrisiadwy. Ynghyd â’r llefaru pwyllog a gofalus, roedd ganddo hefyd lygad direidus a chynhesrwydd personol. Gwnaeth gyfraniad enfawr ar adeg dyngedfennol i’r iaith Gymraeg ac fe welir ei golli’n fawr.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?