S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Brigyn yn cyfansoddi cân newydd ar gyfer rhaglen S4C

17 Rhagfyr 2013

Mae Brigyn, band y ddau frawd o Lanrug wedi rhyddhau cân newydd sbon i gyd-fynd â rhaglen newydd S4C.

Bydd 'Gwyn Dy Fyd', cân newydd Ynyr ac Eurig Roberts yn cael ei chlywed yn ystod y rhaglen O'r Galon: Byd Enlli a Gwenno ar S4C am 8.30pm nos Sul 22 Rhagfyr, ac mae'n cael ei rhyddhau yn swyddogol heddiw (Dydd Llun 16 Rhagfyr) cyn y darllediad.

Stori mam ifanc a'i merch ydy O'r Galon: Byd Enlli a Gwenno. Un o Flaenau Ffestiniog ydy Enlli Jones ac mi gafodd fabi pan oedd hi'n bymtheg oed a hithau dal yn ddisgybl ysgol.

Ond ychydig o wythnosau wedi i ferch fach Enlli, Gwenno, gael ei geni cafodd y teulu wybod ei bod hi'n fyddar.

Mae O'r Galon: Byd Enlli a Gwenno yn ymuno â'r teulu ar ôl i Gwenno gael llawdriniaeth i osod cochlea newydd yn ei chlustiau i'w helpu hi i glywed. Cawn weld sut mae'r ferch fach a'i mam yn ymdopi heddiw.

Dechreuodd Ynyr ac Eurig y prosiect cerddorol Brigyn bron i ddeg mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae eu cerddoriaeth wedi cael ei chwarae yn gyson ar donfeddi radio a'r teledu yma yng Nghymru ac ym Mhrydain.

"Yn gynharach eleni, fe wnes i dderbyn yr her gan gwmni Goriad (sydd wedi cynhyrchu'r rhaglen i S4C) i gyfansoddi cân fyddai'n cael ei chlywed drwy gydol y rhaglen." Esbonia Ynyr, yr hynaf o'r ddau frawd.

"Roedd y broses o gyfansoddi'r gân yn cyd-redeg â'r broses o ffilmio, felly roeddwn i am ysgrifennu geiriau ac alaw dyner fyddai'n uniaethu gyda pherthynas Enlli â Gwenno. Rwyf innau'n rhiant hefyd, ac mi wnes i drio cyfleu'r teimlad gwych hwnnw o ofal, cyfeillgarwch a chariad rhwng rhiant a phlentyn."

Ers 2004 mae Brigyn wedi rhyddhau tri albwm Cymraeg, tair sengl Gymraeg a dwy sengl Saesneg, ond 'Gwyn Dy Fyd' yw'r gerddoriaeth gyntaf i'r brodyr ei rhyddhau eleni.

"Mae'n braf iawn rhyddhau'r gân newydd," meddai Ynyr, sy'n gweithio fel dylunydd graffeg llawrydd o ddydd i ddydd. "Mae hyn wedi fy sbarduno i gasglu llawer o ganeuon sydd gennym a'u rhoi ar CD - i'w rhyddhau yn y flwyddyn newydd."

Ac mae cynlluniau gan y ddau i berfformio hefyd gyda gigs ym Mynydd y Garreg ar 24 Ionawr, yn Llanuwchllyn ym mis Chwefror ac yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar ddydd Gŵyl Dewi.

Gellir clywed a lawrlwytho 'Gwyn Dy Fyd' ar wefan Sound Cloud a bydd Brigyn yn perfformio'r gân ar raglen Heno, S4C nos Wener 20 Rhagfyr.

https://soundcloud.com/brigyn/gwyn-dy-fyd

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?