S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadarnhau gorffwysfa artist o Gymru

30 Ionawr 2014

Mae criw fu’n ymchwilio ar gyfer rhaglen ddogfen ar S4C wedi ail-ddarganfod man gorffwys olaf yr artist o Gymru, Gwen John.

Bydd gwylwyr yn gallu gweld sut y cafwyd hyd i fan claddu’r artist ar y rhaglen Mamwlad gyda Ffion Hague ar S4C nos Sul 2 Chwefror am 8.30pm.

Am flynyddoedd doedd neb yn gwybod ble yn union oedd yr artist byd-enwog o Orllewin Cymru wedi ei chladdu yn dilyn ei marwolaeth ym mis Medi 1939 yn 63 oed.

Er bod perthnasau i Gwen yn cofio mynd i edrych am ei bedd yn y 40au ac yn cofio rhywun yn dangos ei henw iddynt mewn llyfr, ni fu ymgais bellach i osod carreg fedd na charreg goffa ar y safle, ac felly nid yw ei gorffwysfa wedi ei gofnodi yn swyddogol.

Ganed Gwen yn Hwlffordd ym 1876 ond symudodd y teulu i Ddinbych y Pysgod wyth mlynedd yn ddiweddarach wedi marwolaeth mam Gwen.

Gadawodd Gwen Ddinbych y Pysgod cyn gynted ag y gallai gan ddilyn ei brawd Augustus i Lundain i astudio yng Ngholeg Celf y Slade, cyn symud i Baris, ble y bu mewn carwriaeth danbaid gyda’r cerflunydd byd-enwog, Rodin.

Mae gwybodaeth helaeth am fywyd yr artist, ond mae ei marwolaeth, a’i man gorffwys olaf wedi bod yn ddirgelwch tan nawr.

Wrth ymchwilio ar gyfer Mamwlad gyda Ffion Hague, cyfres S4C sy’n edrych ar ferched arloesol o hanes Cymru, mae cwmni cynhyrchu Tinopolis wedi llwyddo am y tro cyntaf i ddarganfod union leoliad gorffwysfa Gwen John.

“Roeddwn i ychydig bach yn obsesiynol am y ffaith nad oedd neb yn gwybod ble’r oedd Gwen John wedi ei chladdu, gan gofio nad oedd hi’n ddynes dlawd, ei bod hi’n eithaf enwog yn ei dydd a bod ganddi deulu yn y wlad yma,” meddai cynhyrchydd y gyfres, Llinos Wynne.

“Roeddwn i’n meddwl fod o braidd yn od ac yn drist a dweud y gwir, ac roeddwn i’n gwybod bod Sara John, gornith Gwen hefyd yn awyddus iawn i ddarganfod bedd Gwen. Ers blynyddoedd bellach mae hi wedi bod eisiau gosod carreg goffa er cof am Gwen.

“Dyma ni’n cyfarfod Sara ac roedd hi’n hapus i rannu'r ymchwil roedd hi wedi’i wneud hyd yma gyda ni. Roedd yr ymchwil yn bytiog ond mi arweiniodd e ni i ardal Dieppe yng ngogledd Ffrainc.

“Yma, wedi siarad gyda thrigolion lleol a dilyn sawl trywydd, o’r diwedd daethon ni o hyd i gofnod o fedd Gwen John ym mynwent Janval yn Dieppe, o dan yr enw Mary John. Ei henw bedydd oedd Gwendolyn Mary John. Roedd ei gorffwysfa yn ddirgelwch ar hyd y blynyddoedd gan nad oedd carreg fedd, a gan fod nifer o gyrff wedi cael eu codi, eu llosgi a’u hail-gladdu er mwyn gwneud lle i gyrff y milwyr o’r rhyfel.”

Ar y rhaglen bydd Ffion Hague yn olrhain hanes yr artist ac yn dangos am y tro cyntaf sgetsys cynnar o waith Gwen tra'r oedd yn fyfyrwraig, ynghyd â llythyron caru a gyfansoddodd i’w chariad, y cerflunydd byd-enwog, Auguste Rodin.

Un person sy’n falch bod y dirgelwch wedi ei ddatrys o’r diwedd yw’r arlunydd adnabyddus Mary Lloyd Jones.

“Roedd o’n beth trist nad oedd neb yn gwybod ble’r oedd hi wedi ei chladdu, ac mae’n ddiddorol bod ei gorffwysfa wedi ei ddarganfod o’r diwedd.

“Rydw i’n falch iawn bod Cymraes wedi llwyddo i greu gweithiau o’r fath statws, ac wedi llwyddo i ffeindio ei llais ei hun. Mae llawer o’i gwaith i’w weld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a dylai pobl fynd i’w gweld ond mae’n bechod nad oes gennym oriel genedlaethol yma yng Nghymru er mwyn i’w gwaith gael ei arddangos yn iawn.”

Mae Sara John, gornith Gwen, yn trafod gyda’r awdurdodau yn Dieppe ar hyn o bryd i weld a fydd modd gosod carreg goffa i Gwen yn y fynwent.

“Rydw i wrth fy modd bod y criw wedi gwneud y rhaglen hon am Gwen a’i bywyd, a bod ei gorffwysfa wedi cael ei gadarnhau unwaith ac am byth,” meddai Sara. “Nawr rwy’n gobeithio y gallwn edrych ymlaen at osod y garreg goffa llechen ar gyfer Gwen.”

Darlledir Mamwlad gyda Ffion Hague nos Sul 2 Chwefror am 8.30pm ar S4C.

Bydd y rhaglen ar gael i’w gwylio arlein am 35 diwrnod wedi’r darllediad ar www.s4c.co.uk/clic.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?