S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn chwilio am gyfrinach chwerthin

18 Chwefror 2014

Y mis hwn bydd S4C yn cymryd rhan yng nghynhadledd ysgrifennu comedi Craft of Comedy Writing yn Venue Cymru, Llandudno.

Ar 22 Chwefror bydd y gynhadledd a gaiff ei chynnal gan Venue Cymru a Giddy Goat Productions Ltd yn llwyfannu nifer fawr o siaradwyr o’r maes gan gynnwys Rheolwr Digidol S4C, Huw Marshall, sydd, fel mae’n digwydd, yn actor ac yn gomedïwr hefyd.

Am 3.00 ar y dydd Sadwrn bydd Huw, sydd â phrofiad o flaen a thu ôl i’r camera, yn cynnal sesiwn Gymraeg ar y cyd gyda Sioned Wiliam, Cynhyrchydd cyfres Yonderland ar Sky 1 a chyn Bennaeth Comedi ITV.

Yn ystod sesiwn Comedi Cymraeg yng Nghymru, opsiynau a chyfleoedd, bydd Huw a Sioned yn trafod datblygu, ‘sgwennu a pherfformio comedi, a hynny mewn cyd-destun ieithyddol Gymraeg.

“Mae comedi yn rhan bwysig o unrhyw ddiwylliant, ond mae yna her yng Nghymru i geisio annog pobl i greu deunydd yn y Gymraeg.” Meddai Huw. “Mae’r cyfleoedd masnachol yn golygu taw drwy gyfrwng y Saesneg mae unigolion yn gweld eu dyfodol. Felly sut y gallwn barhau â’r traddodiad Cymraeg o berfformio comedi? Ydy hi'n amser ail greu'r noson lawen? Oes yna gyfleoedd yn y gofod digidol? Dwi’n gobeithio bydd Sioned a finnau yn medru darganfod atebion i’r cwestiynau yma yn ogystal â gofyn llawer mwy!”

Mae S4C yn cymryd rhan yn y gynhadledd gan ei fod yn fwriad gan y Sianel i ddatblygu talent newydd yng Nghymru a darganfod talent sydd yma’n barod a chael y deunydd doniol ar y sgrin.

Yn y gynhadledd bydd nifer fawr o siaradwyr gwadd yn barod i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd ar sut i gael 'traed dan bwrdd' yn y busnes o ysgrifennu comedi ac i’r rhai sydd eisoes yn ysgrifennu, sut i ddal sylw’r bobl iawn.

Ynghyd â Huw Marshall a Sioned Wiliam, mae’r siaradwr eraill sydd wedi eu cadarnhau yn cynnwys Andrea Mann, golygydd yr Huffington Post Comedy UK, Caroline Raphael, Golygydd Comisiynu comedi a ffuglen Radio 4 a David Nobbs, awdur The Fall and Rise of Reginald Perrin.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad ewch i www.venuecymru.co.uk

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?