S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Chwe chân Cân i Gymru i'w clywed yn llawn am y tro cyntaf

21 Chwefror 2014

 Mae holl ganeuon Cân i Gymru 2014 nawr ar gael ar wefan S4C. Dyma'r cyfle cyntaf i chi glywed pob un o'r caneuon fydd yn cystadlu am y tlws yn fyw ar S4C nos Wener 28 Chwefror, 7.45.

Ewch i s4c.co.uk/canigymru i wrando a rhannwch yr argraff gyntaf drwy ddefnyddio #CIG2014 ar Twitter neu adael sylw ar Facebook - facebook.com/canigymru

Ac wrth drafod y gystadleuaeth, mae nifer o'r cyfansoddwyr ar y rhestr fer wedi dweud mai'r newidiadau diweddar i drefn y gystadleuaeth sy'n rhannol gyfrifol am eu denu i drio eleni.

Yn 2013, fe gyflwynwyd trefn newydd sy'n caniatáu rhyddid i'r cyfansoddwyr gynhyrchu eu cân ar gyfer y rownd derfynol, gan weithio gyda chynhyrchydd a stiwdio o'u dewis.

Roedd rhoi'r rhyddid newydd i'r cyfansoddwyr yn un o'r ffactorau wnaeth ddenu Gwilym Bowen Rhys, prif ganwr Y Bandana ac aelod o'r band gwerin Plu, i drio eto eleni.

Dywedodd Gwilym, "Er fy mod wedi cystadlu dwy flynedd yn ôl roedd y newid fformat wedi fy nenu yn ôl eto gan ei fod yn cynnig mwy o ryddid i'r cyfansoddwyr/perfformwyr."

Mae Gruff Siôn Rees, yn cytuno: "Roedd y syniad o gael y cyfle i recordio'r gân mewn stiwdio broffesiynol o'n newis i yn apelio."

Ac mae Joseff Owen, un o aelodau band Y Cledrau o ardal Y Bala, yn dweud hefyd bod y rhyddid newydd wedi bod yn factor: "Cyfrannodd hyn yn sicr at ein hawydd i gystadlu. Mi fydd cael y cyfle i berfformio yn fyw ar lwyfan cenedlaethol Cân i Gymru yn andros o brofiad ac yn andros o hwyl!"

Mae Gaynor Davies, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, yn falch o'r ymateb i'r newidiadau: "Mae'n dda clywed bod cerddorion wedi croesawu’r newidiadau a bod hynny wedi bod yn ffactor yn eu penderfyniad i gystadlu. Un o'r amcanion oedd rhoi mwy o ryddid i'r cyfansoddwyr baratoi'r gân fel roedden nhw yn bwriadu iddi fod, ac mae'r chwech sydd ar y rhestr fer eleni yn amrywiol ac adlewyrchu sain y cyfansoddwyr unigol."

Elin Fflur a Gethin Evans sy'n cyflwyno'r noson yn fyw o Bafiliwn Môn. A'r holl ganeuon a'r cyfansoddwyr sy'n cystadlu yw: Aderyn y Nos gan Gruff Siôn Rees; Agor y Drws gan Y Cledrau - Joseff Owen, Marged Gwenllian, Ifan Prys ac Alun Roberts; Ben Rhys gan Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris; Brown Euraidd gan Kizzy Meriel Crawford; Dydd yn Dod gan Ifan Davies a Gethin Griffiths; Galw Amdanat Ti gan Barry a Mirain Evans.

Byddwch hefyd yn clywed y caneuon ar Radio Cymru ac C2 yn y dyddiau cyn y gystadleuaeth ac mae'r rhaglen gylchgrawn nosweithiol Heno yn darlledu cyfweliadau arbennig gyda'r cyfansoddwyr.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?