S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gethin Jones i gyflwyno Noson Gwobrau Dewi Sant - gyda rhaglen ar S4C yr un noson

27 Chwefror 2014

Bythefnos cyn cynnal y Noson Gwobrau Dewi Sant gyntaf erioed, mae'r cyflwynydd teledu adnabyddus Gethin Jones wedi ei gyhoeddi fel prif gyflwynydd y seremoni. Fe fydd â’r dasg o lywio digwyddiadau'r noson yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar nos Iau, 13 Mawrth.

Mae Gwobrau Dewi Sant yn gynllun gwobrau cenedlaethol newydd sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru er mwyn cydnabod a dathlu llwyddiannau eithriadol pobl Cymru. Galwodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones ar bobl o bob cwr o Gymru i enwebu rhywun oedd, yn eu barn nhw, yn haeddu cydnabyddiaeth am eu llwyddiannau eithriadol.

Bydd y gwobrau yn cael eu rhoi i bobl sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Efallai ein bod ni'n wlad fach, ond mae llwyddiannau ac ymdrechion pobl werin Cymru yn sylweddol – pobl sy'n gweithio'n ddiflino dros eraill ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd yng Nghymru, heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl. Credaf mai dyma'r cyflawniadau dylen ni gydnabod a dathlu yn y Gwobrau yma."

Dywedodd Gethin Jones ei fod yn anrhydedd cael bod yn rhan o'r digwyddiad hanesyddol. Meddai'r cyflwynydd o Gaerdydd:

"Mae'n wir fraint i mi gael bod yn brif gyflwynydd yn y Seremoni Wobrwyo Dewi Sant gyntaf erioed. Mae yna gymaint o bobl dalentog ac eithriadol yng Nghymru sy’n gweithio mor galed dros ein gwlad ac yr wyf yn falch iawn o gael y cyfle i helpu cyflwyno nhw i'r genedl a dysgu rhagor am eu storïau a’u cyfraniadau anhygoel."

Mae noson Gwobrau Dewi Sant yn cael ei chynnal yn Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ar nos Iau 13 Mawrth.

Ac mae S4C yn cynnig lle i Wobrau Dewi Sant ar y sianel genedlaethol gyda rhaglen arbennig fydd yn adlewyrchu digwyddiadau'r noson.

I'w darlledu ar yr un noson, Angharad Mair fydd yn cyflwyno'r rhaglen Gwobrau Dewi Sant fydd yn crynhoi digwyddiadau'r seremoni, gyda sylw i bob un o'r enillwyr a'u gwobrau a hefyd blas ar ambell berfformiad cerddorol sy'n rhan o'r noson. Yn eu plith mae myfyrwyr dawnus Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu gyda sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch.

A chyn cyrraedd noson cyflwyno'r gwobrau, bydd y rhaglen gylchgrawn dyddiol Prynhawn Da yn cynnig cyfle i ddod i adnabod pob un o'r bobl sydd ar y rhestr fer er mwyn dysgu am eu llwyddiannau a pham eu bod nhw wedi eu henwebu am y wobr.

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Cynnwys S4C;

"Mae Gwobrau Dewi Sant yn ddigwyddiad i'r genedl gyfan sy’n dathlu llwyddiannau pobl yn ein cymunedau ein hunain. Dwi'n falch iawn felly bod S4C yn gallu rhoi llwyfan i'r digwyddiad, ar ei blwyddyn gyntaf, a chynnig modd i bawb fod yn rhan o'r gwobrau drwy ein darllediadau, gyda llwyddiannau'r rhai sydd wedi eu henwebu yn ganolog i'r rhaglenni. "

Bydd y rhaglen Gwobrau Dewi Sant yn dechrau am 8.25 ar S4C nos Iau 13 Mawrth. Bydd y darllediad yn torri am 9.00 ar gyfer Newyddion 9, cyn dychwelyd i'r digwyddiad am awr arall o uchafbwyntiau o 9.30 ymlaen.

Ewch i wefan Gwobrau Dewi Sant stdavidawards.org.uk i ddarllen mwy am y gwobrau a'r terfynwyr sydd wedi eu henwebu ym mhob categori.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?