S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tad a merch yn hawlio teitl Cân i Gymru 2014

28 Chwefror 2014

Y gân Galw Amdanat Ti gan Barry Evans a'i ferch Mirain, o Chwilog, sydd wedi ennill tlws Cân i Gymru 2014 a'r wobr o £3,500.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ar nos Wener 28 Chwefror ym Mhafiliwn Môn, Gwalchmai - lleoliad newydd i'r gystadleuaeth eleni – a'i darlledu'n fyw ar S4C. Yn cyflwyno roedd y gantores Elin Fflur a'r cyflwynydd teledu a Radio Cymru, Gethin Evans.

Fe ddechreuodd Barry, cyn aelod o grŵp y Moniars, ysgrifennu'r gân ugain mlynedd yn ôl, ond dim ond yn ddiweddar y cafodd o'r cyfle i'w gorffen hi gyda chymorth ei ferch, Mirain a wnaeth berfformio'r gân ar y noson.

Mae Gaynor Davies, Comisiynydd Adloniant S4C, yn llongyfarch pawb fu'n cymryd rhan; "Mae clod i bob un o'r cerddorion oedd ar y rhestr fer am gyfrannu at y noson wych o gerddoriaeth a gafwyd ar lwyfan Pafiliwn Môn heno. Ond wrth gwrs, dim ond un enillydd sydd, ac eleni y gân Galw Amdanat Ti oedd yn haeddiannol ym marn y cyhoedd a'r rheithgor. Llongyfarchiadau i'r cyfansoddwyr Barry a Mirain Evans ar y fuddugoliaeth – enillwyr Cân i Gymru 2014."

Yn cystadlu yn y rownd derfynol roedd chwe chân amrywiol: Aderyn y Nos gan Gruff Siôn Rees; Agor y Drws gan Y Cledrau - Joseff Owen, Marged Gwenllian, Ifan Prys ac Alun Roberts; Ben Rhys gan Gwilym Bowen Rhys a Siân Harris; Brown Euraidd gan Kizzy Meriel Crawford; Dydd yn Dod gan Ifan Davies a Gethin Griffiths; Galw Amdanat Ti gan Barry a Mirain Evans.

Ac wedi i bob un berfformio yn eu tro, fe roddwyd y dasg o ddewis enillydd yn nwylo'r gwylwyr drwy'r bleidlais ffôn. Roedd y bleidlais honno yn cyfri am hanner y marciau, gyda'r hanner arall yn cael ei phenderfynu gan aelodau'r rheithgor gwadd.

Ar y panel eleni roedd enillwyr Cân i Gymru 2013, Osian Williams a Rhys Gwynfor; y gantores a'r gyfansoddwraig ifanc Alys Williams; y gantores Gwenda Owen; a Neil 'Maffia' Williams o'r grŵp roc Maffia Mr Huws.

Ewch i wefan S4C - s4c.co.uk/canigymru - i wrando ar bob un o'r caneuon fu'n cystadlu ar y noson, ac i weld fideo o'r perfformiad buddugol unwaith eto. Ac mae'r rhaglen gyfan ar gael ar-lein, ar alw, ar s4c.co.uk/clic

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?