S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C ar gael ar Facebook

26 Mai 2014

Mae S4C wedi lansio gwasanaeth newydd sy'n caniatáu i chi wylio rhaglenni’r Sianel ar Facebook – un o'r gwefannau cymdeithasol mwyaf poblogaidd yn y byd.

Mae'r Sianel, ynghyd â chwmni Microcosm Games o Gaerdydd, wedi datblygu technoleg o'r newydd i greu'r app Facebook sy'n galluogi gwylio cynnwys yn fyw ac ar alw drwy Clic, a hynny heb adael y wefan gymdeithasol.

Bydd yr app hefyd yn eich annog i 'Hoffi' a 'Rhannu' rhaglenni neu wahodd ffrindiau i wylio'r un peth â chi.

Gyda 24 miliwn o bobl o fewn y DU yn ymweld â chyfrifon Facebook bob dydd, mi fydd yr app newydd nid yn unig yn cynnig dull newydd o wylio S4C ond hefyd yn gosod y Sianel yng nghanol pwll enfawr o wylwyr newydd mewn lle sy'n hawdd i'w gweld a'i gwylio.

Dywedodd Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C, "Mae S4C yn arwain y gad ar y llwyfannau cymdeithasol drwy ddatblygu app newydd ein hunan sy'n caniatáu gwylio rhaglenni drwy Facebook. Mae'n beth arferol erbyn hyn i wylwyr rannu sylwadau a defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol wrth wylio'r teledu. Bydd yr ap yn cyfuno'r ddwy sgrin, mewn ffordd sy'n hwylus i bobl wylio a sgwrsio yn yr un lle.

"Mae 70,000 o'r bobl dan 20 oed sydd wedi cofrestru ar Facebook yn nodi ar eu proffil eu bod nhw'n deall Cymraeg. Drwy osod S4C ar Facebook, da ni'n gosod y sianel yn eu canol nhw, yn mynd â'r cynnwys at y gwylwyr."

Er mwyn gwylio S4C ar Facebook bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y app drwy eich proffil personol. Bydd yr app ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae modd dewis gwylio gydag isdeitlau.

Dilynwch y ddolen yma: https://apps.facebook.com/clic_tv/

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?