S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y chwiban olaf ar y maes rhyngwladol i Huw Llywelyn Davies

13 Mawrth 2014

Penwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2014 fydd sylwebaeth olaf Huw Llywelyn Davies mewn gêm ryngwladol ar S4C.

Adeg y gêm rhwng Cymru a’r Alban ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Mileniwm, mae’n rhoi’r meic rhyngwladol lawr, wedi 32 mlynedd o sylwebu’n Gymraeg ar S4C.

Er ei fod yn rhoi’r gorau i sylwebu rhyngwladol, bydd yn parhau i sylwebu ar gemau Pro 12 ar S4C am weddill y tymor.

Mae Huw yn gyfarwydd i gefnogwyr a’i gydweithwyr fel ffynhonnell holl wybodus, gydag ystadegyn neu ffaith wrth law ar gyfer pob sefyllfa.

Daeth sylwebaeth ryngwladol gyntaf Huw yn ôl yn 1979 i BBC Radio Cymru ac yna ar deledu i S4C yn 1983, yn ystod blwyddyn gynta’r sianel, ar achlysur y gêm gyfartal, 13-13, rhwng Cymru a Lloegr yn hen Bencampwriaeth y Pum Gwlad.

Ddydd Sadwrn mae’r ganfed gêm ryngwladol i Gymru yn Stadiwm y Mileniwm ers ei hagor yn 1999.

Mae Huw wedi sylwebu ar dair Camp Lawn i Gymru, pum Taith gyda’r Llewod a phum Cwpan y Byd, ynghyd â buddugoliaethau cofiadwy yn erbyn Awstralia a’r gêm ddramatig yn erbyn Lloegr y tymor diwethaf i benderfynu enillwyr y Bencampwriaeth.

Dywedodd Huw, “Dwi wedi bod yn ffodus iawn i gael gweithio ar gynifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr i S4C a’r BBC; mae llwyddiant wedi mynd a dod ar y cae chwarae ei hun, ond mae bod yno i brofi’r cyfan yn golygu cymaint i fi a d’wi’n ddiolchgar iawn i’m cydweithwyr a’r gynulleidfa am eu cefnogaeth hael ar hyd yr amser. D’wi’n edrych ymlaen nawr at weithio ar bethau eraill i’r BBC ar ddiwedd y Chwe Gwlad.”

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, ”Hoffwn ddiolch i Huw Llywelyn Davies am ei gyfraniad amhrisiadwy wrth gyfoethogi profiad cenedlaethau o wylwyr S4C yn ystod gemau rhyngwladol byw ar y Sianel. Gyda’i sylwebaeth fywiog, ei ddawn dweud naturiol a’i wybodaeth helaeth o’r gêm, mae wedi gosod safonau eithriadol o uchel i sylwebwyr y dyfodol eu hefelychu.”

Dechreuodd Huw ei yrfa fel athro yng Ngholeg Llanymddyfri, cyn symud i HTV yn 1974 ac i’r BBC yn 1979. Yn ogystal â’r sylwebu, bu’n gweithio ar amrywiaeth o raglenni eraill, fel yr Eisteddfod, rhaglenni sgwrs ac adloniant ysgafn a Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?