S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Awdurdod S4C yn cymeradwyo cais i symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin

14 Mawrth 2014

Mae cynlluniau i adleoli pencadlys S4C wedi cymryd cam mawr ymlaen ar ôl i Awdurdod y Sianel gymeradwyo cais i’w denu i Gaerfyrddin.

Mewn cyfarfod ym mhencadlys presennol y Sianel yng Nghaerdydd, fe benderfynodd aelodau Awdurdod S4C fwrw ymlaen gyda chais sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar ôl ystyried ceisiadau gan ddwy ardal newydd.

Caernarfon oedd yr ardal arall oedd wedi cyrraedd rhestr y ddau olaf, ac roedd y posibilrwydd o aros yng Nghaerdydd hefyd wedi’i ystyried.

O ganlyniad i’r penderfyniad fe fydd staff y sianel yn parhau i weithio ar gynlluniau fydd yn golygu y bydd swyddfeydd gan S4C yn y llefydd canlynol:

• Pencadlys y sianel yng Nghaerfyrddin

• Parhau a phresenoldeb yng Nghaerdydd

• Parhau a swyddfa yng Nghaernarfon ar ei maint presennol o leiaf

Daw’r penderfyniad yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb oedd wedi’i chynnal i’r posibilrwydd o symud pencadlys y sianel allan o Gaerdydd. Y bwriad yw lledaenu buddiannau economaidd ac ieithyddol sy’n deillio o fodolaeth S4C fel sianel genedlaethol. Roedd Awdurdod S4C wedi datgan y bydd rhaid i unrhyw gynllun i symud fod o fudd i wasanaethau a chael ei wireddu heb gost ariannol ychwanegol i’r sianel dros gyfnod.

Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, fe bwysleisiodd Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones ei fod yn obeithiol iawn y bydd modd gwireddu’r cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol sydd wedi’u cyflwyno. Ond ychwanegodd fod sawl cam cytundebol ac ariannol pwysig i'w cyflawni er mwyn i’r cynlluniau gael eu gwireddu.

Os yw’r cynlluniau yn cael eu gwireddu, fe fyddan nhw’n golygu:

• Pencadlys newydd sbon ar gyrion tref Caerfyrddin.

• Tua hanner cant o swyddi’n cael eu symud yno.

• Targed o fod yn weithredol ar y safle newydd yn 2018.

Yn dilyn penderfyniad yr Awdurdod, meddai’r Cadeirydd Huw Jones:

"Mae aelodau Awdurdod S4C wedi cael cyfle i glywed, darllen, trafod a chraffu ar gynlluniau gwych sydd wedi'u cyflwyno i ni gan ddau grŵp sydd â gweledigaeth gref iawn. Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw’u dau.

"Rydym wedi cytuno ei bod hi’n ddichonol ac yn ymarferol bosib i symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin, ac yn unol â’n hamodau, mae’r cynlluniau sydd wedi’u cyflwyno i ni yn gost-niwtral dros gyfnod.

"Rydym yn hyderus y byddai'r cynlluniau hyn o fudd i wasanaeth S4C, ac yn cynnig buddiannau economaidd ac ieithyddol yng Nghaerfyrddin. Fe fydd S4C nawr yn ceisio gwireddu’r dymuniad a’r uchelgais yma ar y cyd â’n partneriaid yn yr ardal.

"Er pwysiced ein penderfyniad, mae’n gynnar o hyd yn oes y cynllun yma wrth i heriau ariannol a chytundebol gael eu hwynebu. Ond rwy’n mawr obeithio y bydd modd gwireddu’r cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol sydd wedi’u cymeradwyo gan yr Awdurdod, ac y bydd y weledigaeth flaengar hon yn troi’n fframwaith daearyddol i S4C ar gyfer y 30 o flynyddoedd nesaf."

Ychwanegodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Mae’r penderfyniad hwn yn gam sylweddol ymlaen i’n cynlluniau i hybu’r economi a’r iaith mewn rhan arall o Gymru.

“Rwy’n llongyfarch partneriaid cais Caerfyrddin yn wresog, ac yn naturiol rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weithio ymhellach gyda nhw i wireddu’r cynlluniau sydd wedi’u cyflwyno.

“Nawr, mae gwaith mawr pellach i’w wneud i droi’r cynlluniau hyn yn realiti. Drwy wneud hynny, fe fyddwn ni’n cadarnhau lle S4C fel darlledwr cenedlaethol Cymru, a byddwn hefyd yn creu buddiannau economaidd, diwylliannol ac ieithyddol go iawn yng Nghaerfyrddin. Yr amod clir o’r cychwyn oedd bod angen gwireddu hyn mewn ffordd sy’n gost-niwtral ac sy’n diogelu ein cyllideb cynnwys i’r dyfodol.

“Hoffwn longyfarch hefyd partneriaid cais Caernarfon. Er na chawson nhw eu dewis yn y diwedd, mae eu gweledigaeth yn un arbennig o gyffrous i bobl y gogledd orllewin. Hyd yn oed heb bencadlys S4C, rydym yn gobeithio y bydd eu gwaith gwych yn gallu sbarduno datblygiad yno fydd yn dod â buddiannau sylweddol i’r ardal.”

Wrth wneud y penderfyniad am bencadlys S4C, fe gymeradwyodd yr Awdurdod yr egwyddor o gydleoli elfennau o waith y sianel gyda’r BBC yng Nghaerdydd yn amodol ar ddod i gytundeb yn sgil y trafodaethau sy’n parhau.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?