S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Uchafbwyntiau ras Paris-Nice ar S4C gyntaf

19 Mawrth 2014

S4C fydd y Sianel gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddarlledu awr o uchafbwyntiau o ras feicio Paris-Nice 2014 a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf.

Bydd uchafbwyntiau o’r ras wyth niwrnod a gynhaliwyd o ddydd Sul 9 hyd at ddydd Sul 16 Mawrth yn cael eu darlledu mewn rhaglen awr ar S4C nos Iau, 20 Mawrth am 9.30pm.

Bydd rhaglen Geraint Thomas: Paris-Nice yn dilyn hynt a helynt rhai o enwau mwyaf adnabyddus y byd beicio yng Nghymru yn ystod y ras wyth cymal sy’n 1,447 o gilomedr i gyd.

Roedd rhai o feicwyr ffordd gorau’r byd wedi teithio i Ffrainc i gymryd rhan yn ras Paris- Nice, cymal Ewropeaidd cynta' Pencampwriaeth seiclo UCI y Byd, ac yn eu plith roedd y Cymro a’r Pencampwr Olympaidd, Geraint Thomas o Gaerdydd, prif feiciwcr Tim Sky.

Roedd Thomas yn yr ail safle cyn iddo gael ei ddal mewn gwrthdrawiad bum cilomedr o’r llinell derfyn yn seithfed cymal y ras. Ni fu modd iddo orffen y ras wedi hynny. Bydd y gwrthdrawiad i’w weld ar y rhaglen yn ogystal â chyfweliad gyda Thomas yn ei gartref ym Monaco y diwrnod ar ôl y digwyddiad.

Bydd Geraint Thomas: Paris-Nice hefyd yn cyfweld ag aelod arall o Dîm Beicio Sky, y beiciwr o Gaerdydd, Luke Rowe.

Mae’r darllediad ynghlwm ag addewid S4C i ddarparu gwasanaeth chwaraeon sy’n adlewyrchu nifer eang o gampau.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C: “Mae’n darpariaeth chwaraeon yn esblygu ac yn ehangu i adlewyrchu diddordebau amrywiol yng Nghymru. Yn ddiweddar gwelsom fod poblogrwydd beicio a gwylio rasio beic yn cynyddu, ac rydym yn falch o fedru ymateb i hyn ac i ddarlledu uchafbwyntiau un o ddigwyddiadau mwyaf a hanesyddol bwysig y calendr seiclo.”

Bydd rhaglen Geraint Thomas: Paris- Nice yn cael ei darlledu yn gydamserol ar wefan S4C a bydd ar gael i’w gwylio ar Clic am 35 diwrnod yn dilyn y darllediad.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?