S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dwy raglen ddirdynnol gan S4C yn dod i'r brig yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd

02 Ebrill 2014

 Mae ffilm am y prifardd Gerallt Lloyd Owen a dogfen i blant wedi dod i'r brig ar ddiwrnod cyntaf yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2014.

Daeth Gerallt, cynhyrchiad gan Gwmni Da, i'r brig yn y categori Celfyddydau, ac fe gipiodd y gyfres #FI, gan Boom Plant (rhan o Boom Pictures Cymru) wobr yn y categori Plant.

Mae Gerallt yn ffilm onest a threiddgar am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen, sy'n codi'r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig, a ysgrifennodd rai o gerddi enwocaf Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Guto Williams, "Dwi'n teimlo bod yna themâu pwysig yn y rhaglen, ac mae wedi bod yn anrhydedd cael gwneud y ffilm. Mae Gerallt bellach wedi encilio o lygaid y cyhoedd ac felly roedd yn fraint cael gwneud rhywbeth arno yn lle cynta’. Mae o'n ddyn sy'n byw i'w farddoniaeth, ac roeddem yn teimlo fod y rhaglen hon yn gofnod pwysig oedd angen ei wneud."

Mae #FI yn gyfres sy'n rhoi lle i bobl ifanc rannu straeon am eu bywydau a materion sydd o bwys iddyn nhw. Roedd y rhaglen a enwebwyd yn trafod y profiad o golli rhiant, gyda Lois Cernyw yn cyflwyno.

Dywedodd Rachel Evans, cynhyrchydd #FI "Dyw rhaglenni ddogfen ddim yn genre unigryw i oedolion. Mae gan blant awch i glywed straeon am eu hunain, yn cael eu hadrodd gan eu hunain, ac maen nhw'n ddigon dewr ac abl i ddelio â phynciau anodd. Roedd y pedwar wnaeth siarad gyda ni wedi colli rhiant, sy'n brofiad anodd ta beth heb sôn am rannu'r profiad gyda'r gwylwyr. Wnaethon nhw ddangos dewrder mawr ac ymroddiad wrth ddweud y stori yn eu geiriau eu hunain."

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Llongyfarchiadau mawr i Gerallt a phawb ar y tîm cynhyrchu yng Nghwmni Da. Llongyfarchiadau mawr hefyd i bawb yn Boom Plant ar gynhyrchiad #FI. Dau gategori cystadleuol tra gwahanol a dwy wobr ar ddiwrnod agoriadol yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd. Prawf ein bod yn comisiynu rhaglenni o safon ar S4C a chadarnhad o'r dalent gynhyrchu sydd yng Nghymru."

Mae'r ŵyl flynyddol yn cael ei chynnal yng Nghernyw eleni yn nhref Porth Ia (St Ives) rhwng 2 a 4 Ebrill. Mewn rhifyn arbennig o Heno ar S4C nos Lun, 7 Ebrill 7.00, bydd Aneirin Karadog a Gwenno Saunders yn cyflwyno golwg ar ddigwyddiadau'r ŵyl sy'n dathlu'r gorau o ddarlledu ar radio a theledu yn y rhanbarthau Celtaidd – Cernyw, Cymru, Iwerddon, Llydaw, Ynys Manaw a'r Alban.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?